T. E. Lawrence: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10:
== Yn Arabia ==
{{prif|T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd}}
Unwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol [[y Swyddfa Rhyfel]] yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth [[y Fyddin Brydeinig]] yng [[Cairo|Nghairo]], [[yr Aifft]]. Lansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan [[Hussein bin Ali, Sharif Mecca]], a'i meibion Ali, Abdullah, [[Faisal I, brenin Irac|Faisal]] a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i [[Arabia]] ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y [[Hejaz]]. Nod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel, a daeth Lawrence yn arweinydd a strategydd [[herwfilwrol]] iddynt. Targedwyd [[Rheilffordd Hejaz]] gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.
O [[1914]] ymlaen roedd yn gweithio gyda'r ''British Military Intelligence'' yng [[Cairo|Nghairo]], [[yr Aifft]]. Ym [[1916]] cafodd ei yrru i [[Arabia]] i wneud adroddiad am fudiad cenedlaethol yr [[Arabiaid]]. Yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] roedd e'n rhan o luoedd afreolaidd yr Arabiaid o dan yr [[Emir Feisal]], yn brwydro yn erbyn y [[Twrci]]aid ac yn ceisio argyhoeddi'r Arabiaid i gydweithio â [[Deyrnas Unedig|Phrydain]]. Roedd Lawrence yno pan gipiwyd trefi [[Aqaba]] (de [[Gwlad Iorddonen]]) ym [[1917]] a [[Damascus]] (prifddinas [[Syria]] heddiw) ym [[1918]].
 
=== Brwydr Aqaba ===
[[Delwedd:Lcamel.jpg|bawd|Lawrence ar gefn camel yn Aqaba.]]
Cipiodd lluoedd Feisal borth [[Aqaba]] yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr [[Edmund Allenby]] o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.
 
=== Deraa ===
O ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn [[Yarmuk]] gan dorri'r rheilffordd rhwng [[Deraa]] ac [[Haifa]]. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i [[Azrak]] â'i griw o gerilas.
 
Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn ''Seven Pillars of Wisdom'', aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn [[Circasiaid|Gircasiad]] mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r [[Bey]] lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.
 
Yn ôl aelodau staff Syr [[Ronald Storrs]], roedd Lawrence wedi "newid" ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa.<ref>Storrs, t. 23.</ref> Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol.<ref>Mack, t. 229&ndash;34.</ref> Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill [[George Bernard Shaw]] nad oedd y stori am Deraa yn wir.<ref>Greaves, t. 149.</ref> Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn ''Seven Pillars''. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.
 
=== Cwymp Damascus ===
Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym [[Brwydr Megiddo (1918)|Mrwydr Megiddo]], symudodd [[Ymgyrch Sinai a Phalesteina]] yn agosach at [[Damascus]]. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, [[Djemal Pasha]], uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.
 
Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.
 
== Blynyddoedd wedi'r rhyfel ==