Plas Tan y Bwlch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
mwy
Llinell 4:
 
==Hanes==
Yn yr [[16eg ganrif]] roedd y tir lle saif ystâd Tan y Bwlch heddiw, yn ogystal â llawer o diroedd yn y cyffiniau'n eiddo i [[Ieuan ap Iorwerth ap Adda]]. Ef a'i ddisgynyddion y cododd y plasdy cyntaf. Roedd y teulu'n hanu o linach [[Collwyn ap Tangno]], un o bymtheg llwyth Gwynedd ac roedd ganddynt gysylltiadau gyda'r Tywysog enwog, [[Gruffudd ap Cynan]] a lwyddodd i oresgyn y Saeson mewn brwydr ger [[Gellilydan]], tua phedair milltir o Blas Tan y Bwlch. Oherwydd hyn, roedd gan y trigolion lleol barch mawr at berchnogion y plas.
 
Adeiladwyd y plasdy cyntaf yma yn 1634 gan Evan Evans a oedd yn Siryf Meirionnydd ac yn fab i Robert a Lowri (nee Prys). Mae'r cyfeiriad cyntaf at stâd Tan y Bwlch i'w gael yn ewyllys gŵr o'r enw Robert Evans yn 1602. Roedd mab Robert Evans, a oedd o'r un enw yn briod ag wyres [[Edmwnd Prys]] sef Lowri Prys, Tyddyn Du, rheithor Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd. Lowri a etifeddodd tiroedd [[Rhywbryfdir]] ger Blaenau Ffestiniog; yma, yn ddiweddarach, y sefydlwyd [[Chwarel yr Oakeley]] a ddaeth a chyfoeth mawr i'r teulu.