Wicipedia:Biwrocratiaid

Mae biwrocratiaid yn ddefnyddwyr Wicipedia gyda'r gallu technegol:

add the administrator, bureaucrat, account creator, reviewer, or bot user group to an account remove the administrator, account creator, IP block exemption, reviewer, or bot user group from an account

  • i ychwanegu hawliau gweinyddwr, biwrocrat, crewr cyfrifon, adolygydd neu fot i gyfri
  • dileu hawliau gweinyddwr, crewr cyfrifon, Eithrydd y bloc IP (IP block exemption), adolygydd neu fot o gyfri

Gallant hefyd:

Dylent fod yn atebol i bolisi a chonsensws i roi hawliau gweinyddwr neu fiwrocrat, dim ond pan mae gwneud hynny yn adlewyrchu ewyllys y gymuned, fel arfer ar ôl cais llwyddiannus yn y Caffi. Ac mewn modd tebyg, disgwylir iddynt ddefnyddio barn deg wrth benderfynu a ddylid ailenwi defnyddwyr, ac i gadarnhau fod y polisïau bot yn cael eu dilyn gan roi statws bot i ddefnyddiwr. Disgwylir iddynt fod yn feirniaid galluog o gonsensws ac i egluro eu penderfyniadau pan fo'r gofyn amdanynt, a hynny mewn ffordd foesgar. Dylai eu gweithredoedd adlewyrchu polisiau Wicipedia Cymraeg.

Biwrocratiaid golygu

  1. Deb (hawliau ailenwi botiau cyfraniadau)
  1. Porius1 (hawliau ailenwi botiau cyfraniadau)
  1. Anatiomaros (hawliau ailenwi botiau cyfraniadau)
  1. Llywelyn2000 (hawliau ailenwi botiau cyfraniadau)


Cyfarwyddiadau golygu

Urddo golygu

  1. Aros o leiaf saith diwrnod ar ôl i'r cais am weinyddiaeth gael ei wneud.
  2. Edrych ar hanes y dudalen i gadarnhau fod y sylwadau'n ddilys.
  3. Penderfynu a oes consensws y dylai defnyddiwr gael ei urddo (neu ei ddileu) gan ddilyn y rheolau traddodiadol a'r dyfarniad gorau.
  4. Os felly, i hybu i weinyddwr neu fiwrocrat gan ddefnyddio Arbennig:Makesysop.
  5. Ar gyfer ceisiadau llwyddiannus dylid nodi hynny'n glir yn y Caffi ac ar y dudalen 'Gweinyddwr' neu 'Fiwrocrat' ayb.
  6. Os ydy'r enwebiad yn llwyddiannus, i adael i'r defnyddiwr wybod hynny ac ychwanegu eu henw i'r dudalen hon os yn briodol.

Ailenwi golygu

  1. Edrych ar en:Wikipedia:Changing username i gadarnhau fod yr ailenwi'n ddilys.
  2. Cadarnhau nad oes gan y defnyddiwr hanes o gamddefnyddio.
  3. Rhoi'r hen enw a'r enw newydd ar Arbennig:Renameuser.

Baner Bot golygu

  1. Gwneir ceisiadau am yr hawl i ddefnyddio Bot ar Wicipedia Cymraeg yma
  2. Cadarnhau fod aelod o'r gymuned wedi cymeradwyo'r bot
  3. Ewch i Special:Makebot a gosod y faner
  4. Gallwch dynnu baneri bot gan ddefnyddio Special:Makebot.
  5. Diweddaru'r rhestr ar Restr y Botiau

Gweler Hefyd golygu