Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Bywgraffiad: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Ganed hi yn [[Llanofer]], gerllaw [[Y Fenni]] yn [[Sir Fynwy]], yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Yn 1823, priododd [[Benjamin Hall, Barwn 1af Llanover|Benjamin Hall]], priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer.
 
Roedd gan Arglwyddes Llanover ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan [[Thomas Price (Carnhuanawc)]] wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn [[1826]]. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd [[1834]], enillodd y wobr gyntaf am draethawd ''Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales''. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol a hi a fu'n gyfrifol yn bennaf am ddyfeisio'r 'wisg genedlaethol' gyfarwydd gyda'i chlogyn goch a'r het dal ddu.