Roedd '''Stewart Terence Herbert Young''' ([[20 Mehefin,]] [[1915]] – [[7 Medi,]] [[1994]]) yn gyfarwyddwr ffilmiau Prydeinig. Cafodd ei eni yn [[Shanghai]], [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Tseina]] a derbyniodd addysg breifat. Astudiodd Hanes Dwyreiniol yng [[Coleg St. Catherine|Ngholeg St. Catherine]], [[Prifysgol Caergrawnt]]. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo tair ffilm, gan gynnwys y ffilm gyntaf yn y gyfres [[James Bond]] sef [[Dr. No (ffilm)|Dr. No]] (1962) yn ogystal â [[From Russia with Love (ffilm)|From Russia With Love]] (1963), a [[Thunderball (ffilm)|Thunderball]] (1965).