Anton Bruckner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Offerynnol: Awdurdod
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Anton bruckner.jpg|thumb|Anton Bruckner, llun gan Ferry Bératon, 1890]]
 
Cyfansoddwr [[Awstria|Awstraidd]] oedd '''Josef Anton Bruckner''' ([[4 Medi]] [[1824]] - [[11 Hydref]] [[1896]]). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf ei gyfnod.
 
Ganed ef ym mhentref [[Ansfelden]], yr hynaf o unarddeg o blant; roedd ei dad, hefyd Anton Bruckner, yn ysgolfeistr. Roedd canu'r organ yn rhan o ddyletswyddau ei dad fel ysgolfeistr, a dysgodd Anton yr organ yn ieauanc. Bu farw ei dad yn 1837. Wedi hyfforddi fel athro, bu Bruckner yn athro cynorthwyol ym mhentref Windhaag, ond aeth i drafferth trwy dreulio mwy o amser yn cyfansoddi cerddioriaeth nag yn gwneud ei waith, a symudwyd ef i [[Kronstorf]].