Pedryn Cynffon-fforchog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
statws cadwraeth
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
Llinell 19:
Aelod o deulu'r [[Hydrobatidae]], y pedrynnod drycin, yw'r '''Pedryn Cynffon-fforchog''', hefyd '''Pedryn Llach''' ('''''Oceanodroma leucorhoa''''').
 
Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhannau gogleddol [[Cefnfor Iwerydd]] a'r [[Cefnfor Tawel]], fel rheol gannoedd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ceir y nifer fwyaf yn nythu ar [[Ynys Baccalieu]] yn nwyrain [[Canada]], lle mae tua 3 miliwn o barau. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.
 
Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi [[gwylan (aderyn)|gwylanod]] ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn ychydig yn fwy na'r [[Pedryn Drycin]], ac mae'r fforch yn y gynffon yn gymorth i'w wahaniaethu oddi wrth y rhywogaeth yma.
 
Nid yw'n nythu o gwmpas arfordir [[Cymru]], ond gellir gweld cryn nifer yn yr hydref oddi ar yr arfordir gogleddol ambell flwyddyn, pan mae'r adar yn symud tua'r de.
 
 
[[Categori:Adar]]