Pedryn drycin Leach

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Pedryn Cynffon-fforchog)
Pedryn drycin Leach
Oceanodroma leucorhoa

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Procellariformes
Teulu: Hydrobatidae
Genws: Oceanodroma[*]
Rhywogaeth: Oceanodroma leucorhoa
Enw deuenwol
Oceanodroma leucorhoa
Dosbarthiad y rhywogaeth
Mae'r wy.

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pedryn drycin Leach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pedrynnod drycin Leach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Oceanodroma leucorhoa; yr enw Saesneg arno yw Leach's storm petrel. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Hydrobatidae) sydd yn urdd y Procellariformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn O. leucorhoa, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Fe'i gwelir ar arfordir Cymru hefyd. Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.

Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhannau gogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, fel rheol gannoedd neu filoedd o adar gyda'i gilydd. Ceir y nifer fwyaf yn nythu ar Ynys Baccalieu yn nwyrain Canada, lle mae tua 3 miliwn o barau. Mae'n nythu mewn tyllau yn y ddaear neu agen mewn craig, ac yn dodwy un ŵy yn unig.

Dim ond yn y nos y mae'n dod at y nyth, er mwyn osgoi gwylanod ac adar ysglyfaethus. Mae'n aderyn ychydig yn fwy na'r Pedryn drycin, ac mae'r fforch yn y gynffon yn gymorth i'w wahaniaethu oddi wrth y rhywogaeth yma.

Nid yw'n nythu o gwmpas arfordir Cymru, ond gellir gweld cryn nifer yn yr hydref oddi ar yr arfordir gogleddol ambell flwyddyn, pan mae'r adar yn symud tua'r de.

Teulu golygu

Mae'r pedryn drycin Leach yn perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Hydrobatidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Pedryn Cynffon-fforchog Oceanodroma leucorhoa
 
Pedryn drycin Madeira Oceanodroma castro
 
Pedryn drycin Matsudaira Oceanodroma matsudairae
 
Pedryn drycin Tristram Oceanodroma tristrami
 
Pedryn drycin cynffonfforchog Oceanodroma furcata
 
Pedryn drycin du Oceanodroma melania
 
Pedryn drycin lludlwyd Oceanodroma homochroa
 
Pedryn drycin torchog Oceanodroma hornbyi
 
Pedryn drycin torddu Fregetta tropica
 
Pedryn drycin torwyn Fregetta grallaria
 
Pedryn drycin tywyll Oceanodroma markhami
 
Pedryn drycin y Galapagos Oceanodroma tethys
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Pedryn drycin Leach gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.