AIDS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 30:
Mae lewcoenseffalopathig amlffocal datblygol yn afiechyd difyelinol, lle mae'r bilen myelin sy'n gorchuddio [[acson]]au nerfau'r celloedd yn cael ei ddinistrio'n raddol, gan effeithio ar drosglwyddiad cynhyrfiad nerfol. Caiff ei achosi gan y firws JC sydd i'w ddarganfod mewn 70% o'r boblogaeth yn ei ffurf guddiedig, ond sydd yn achosi afiechyd yn unig pan fo system imiwnedd y corff wedi'i wanhau'n ddifrifol, fel y gwelir mewn achosion o bobl ag AIDS. Mae'n datblygu'n gyflym, gan arwain at farwolaeth o fewn misoedd o ddiagnosis gan amlaf.<ref>Sadler M, Nelson MR (1997). "Progressive multifocal leukoencephalopathy in HIV". Int. J. STD AIDS 8 (6): 351–357. PMID 9179644.</ref>
 
Mae cymhlyg dementia AIDS yn enseffalopathi metabolig a ddaw yn sgìlsgil heintiad HIV, a chaiff ei yrru gan actifiant imiwnedd ymennydd sydd wedi'i heintio â macroffagau a microglia. Caiff y celloedd hyn eu heintio â HIV gan ryddhau niwro-docsinau o darddiadau firaol ac wrth y cynhaliwr. Gwelir namau niwrolegol penodol ar ffurf anawsterau gwybyddol, ymddygiadol a modurol sy'n digwydd ar ôl blynyddoedd o heintiad HIV a chânt eu cysylltu â lefel celloedd CD4+ T isel a llwyth firaol plasma uchel.
 
Gwelir cyffredinolrwydd o 10-20% mewn gwledydd Gorllewinol <ref>Grant I, Sacktor H, McArthur J (2005). "HIV neurocognitive disorders". in H. E. Gendelman, I. Grant, I. Everall, S. A. Lipton, and S. Swindells. (ed.) (PDF). The Neurology of AIDS (2nd ed.). London, UK: Oxford University Press. td. 357–373. ISBN 0-19-852610-5.</ref> gyda 1-2% o heintiadau HIV yn yr [[India]].<ref>Satishchandra P, Nalini A, Gourie-Devi M, et al (2000). "Profile of neurologic disorders associated with HIV/AIDS from Bangalore, South India (1989–1996)". Indian J. Med. Res. 11: 14–23. PMID 10793489.</ref> O bosib, gellir priodoli'r gwahaniaeth hwn i'r is-fath o HIV yn India. Weithiau gwelir mania'n gysylltiedig ag AIDS mewn cleifio gydag afiechyd HIV datblygedig; mae'n arddangos ei hun gyda mwy o namau gwybyddol a llai ewfforig na thro manig a gysylltir ag [[anhwylder deubegwn]] go iawn. Yn aml, gwelir y cyflwr hwn wrth ddechrau triniaeth aml-gyffur.