Eifionydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cywiro cyswllt wici
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 3:
Gorwedd '''Eifionydd''' yn sir [[Gwynedd]], gogledd-orllewin [[Cymru]]. Mae'r ardal yn cynnwys de-ddwyrain [[Penrhyn Llŷn]] er nad yw'n rhan o'r [[Llŷn]] draddodiadol. Mae'n ymestyn o gyffiniau [[Porthmadog]] yn y dwyrain, lle mae'r [[Traeth Mawr]] yn ffin iddi, hyd [[Afon Erch]], ychydig i'r dwyrain o dref [[Pwllheli]]. Yn wreiddiol roedd yn un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] cantref [[Dunoding]], ond yn wahanol i lawer o gymydau Cymru, mae'r enw yn parhau i gael ei ddefnyddio am yr ardal.
 
Eifionydd oedd y rhan ogleddol o gantref Dunoding. Yn ôl y traddodiad cafodd ei enw o Eifion fab Dunod. Roedd Dunod, a roddodd ei enw i'r cantref, yn un o feibion [[Cunedda Wledig]]. Canolfan y cantref yn y cyfnod diweddar oedd [[Cricieth]], ond efallai y bu canolfan gynharach yn [[Dolbenmaen|Nolbenmaen]].
 
Ar hyn o bryd nid yw Eifionydd yn uned o lywodraeth leol, ond defnyddir yr enw yn gyffredin, er enghraifft "Ysgol Eifionydd" ym Mhorthmadog. Mae Eifionydd yn cynnwys pentrefi [[Abererch]], [[Chwilog]], [[Llanaelhaearn]], [[Pencaenewydd]], [[Llanarmon (Gwynedd)|Llanarmon]], [[Llangybi, Gwynedd|Llangybi]], [[Llanystumdwy]], [[Rhoslan]], [[Pentrefelin, Gwynedd|Pentrefelin]], [[Penmorfa]], [[Garndolbenmaen]], [[Golan, Gwynedd|Golan]] [[Bryncir]] a [[Pantglas]].