Lloffiwr
Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr/Archif 1
Categori
golyguDiolch Eleri. Mae 'na gymaint i'w wneud yma! Dwi'n siwr fod pawb yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau chi hefyd.
Mae un peth yn arbennig yn fy nrysu braidd, sef y defnydd o'r categorïau. Daw sawl pwynt i'r meddwl.
- 1. Dewis enw priodol ar gyfer categori newydd. Mae hi mor anhwylus ceisio chwilio yn y rhestr categorïau i weld a oes categori tebyg yn bodoli eisoes, a hynny yn bennaf am fod pob dyddiad yn cael ei gyfri fel categori. Onid oes modd cael rhestr ar ffurf "coeden", er enghraifft?
- 2. Pam nad yw'r prif gategorïau ar gael ar y ddalen Hafan (neu rywle arall fyddai'n gyfleus) er mwyn cael mynediad hwylus atynt? Ar hyn o bryd mae Llenyddiaeth, er enghraifft, yn eich cymryd i stwbyn o dudalen digon cyffredinol sy ddim yn llawer o iws i rywun, yn ymwelydd neu'n gyfranydd, sy'n chwilio am gategori penodol.
Dwi ddim yn gwybod os medrwch chi wneud rhywbeth i ddatrys hyn, ond yn fy marn i mae angen gwneud rhywbeth gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae ymwelydd yn debyg o fethu ffeindio hanner yr erthyglau ar y seit heb hir amynedd, a gresyn ydi hynny.
Fôn.Anatiomaros 22:37, 18 Medi 2006 (UTC)
Mae'n ddrwg gennyf fod cyhyd cyn ateb yr uchod. Rwyn cytuno bod angen gwelliant ar y categorïau ond hyd yn hyn, er crafu pen, heb weld y ffordd yn glir na bod â digon o egni i daclo'r peth. Y tudalennau help yw'r bwgan pennaf gen i ar hyn o bryd. Mae'n dda iawn gennyf eich gweld yn taclo busnes y categorïau ac yn ddigon parod i dreulio peth amser wrth hwn. Bydd yn well mynd â'r drafodaeth draw at y caffi ymhen hir neu hwyr ond rhof yr ymateb gyntaf fan hyn.
At eich pwyntiau:
- Y lle gorau i astudio posibiliadau cynllunio ar gyfer y categorïau yw Wikipedia Saesneg. Mae ganddynt goeden categorïau fan hynny ac rwyn credu mai rhywbeth gweddol o newydd yw hynny (ac efallai heb lwyr ymgartrefu eto). Mae ganddynt hefyd 'quick index' yn nhrefn yr wyddor – byddai hynny'n ateb y broblem bod y rhestr categorïau yn drwsgl iawn.
- A ydych wedi gweld bod Adam wedi bod wrthi'n ail-wampio'r dudalen hafan? Mae'r drafft ar Defnyddiwr:Adda'r Yw/Hafan. Dyma gyfle felly i adnewyddu'r cysylltiadau presennol ar hafan. Falle y bydde'n syniad gweld pa gategorïau sy'n weddol lawn yn barod a'u rhoi ar yr hafan, serch nad ydynt efallai yn brif gategorïau, er mwyn hwyluso mynediad at yr erthyglau sydd yn bod.
Problem mwy i ni yw bod angen llawer yn rhagor o erthyglau sy'n cyflwyno categorïau er mwyn creu cyfanwaith i'w bori! Ar y cyfan mae wicipedia yn llawn dechreuadau pethau sydd fel y soniaist am y cyswllt i Lenyddiaeth yn gallu siomi'r darllenydd yn rhwydd. Amser i wicipedia gael tyfu yw'r unig ateb hirdymor.
Mae sawl un o'r Wicïau erall wedi ehangu digon i fod â phorthau yn hytrach na chategorïau fel eu prif offer llywio drwy'r wici. Mae Adam wedi gwneud bocs llywio ar gyfer y Gymraeg, gan bod hwnnw'n ddigon mawr i wneud hynny. Mae potensial i ni ddechrau pyrth a bocsys llywio ar gyfer rhai adrannau eraill megis adar, Cymru a phobl.
Dyna ddigon am nawr. Diolch i chi am ddechrau trafodaeth ar hwn. Lloffiwr 11:30, 1 Hydref 2006 (UTC)
Nodiadau ar gyfer y ffurflen uwchlwytho
golyguY rheswm pam oedd Nodyn:Manylion yn edrych fel nad oedd yn gweithio oedd y tagiau <includeonly></includeonly>. Does gen i ddim syniad sut i'w osod ar y ffurflen uwchlwytho, mae'n flin gen i. Dwi newydd bod yn chwilio trwy negeseuon MediaWici'r Comin a commons:Template talk:Information (gan fod commons:Template:Information yn ymddangos yn y blwch ar [1]) am ryw fath o eglurhad, ond methu darganfod y gyfrinach! Cofion, —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:11, 13 Awst 2008 (UTC)
Yr wyddor Gymraeg
golyguHelo Lloffiwr, dyma ymateb i neges adawoch chi i fi ym mis Gorffennaf (!). Yr unig broblem yw mai A-By-Cy ddeuai'n naturiol imi yn hytrach na'r Abiec, felly dw i ddim yn meddwl mai fi yw'r boi at y dasg o recordio'r wyddor Gymraeg. Byddwn i'n fodlon gwneud y llall, ond bydde hynny'n mynd yn groes i'r erthygl ysgrifenedig! Falle ca i gyfle dros y gwylie i ffeindio rhywun fydd yn gallu ac yn fodlon adrodd yr wyddor yn yr hen ffordd... Nadolig Llawen, gyda llaw! Jac y jwc 14:05, 24 Rhagfyr 2008 (UTC)
polisi preifatrwydd
golyguYsgrifennaist ti: Os wyt ti am fentro ar gyfieithu peth o'r darpar polisi rho gynnig arni.
Sori, mae'n ymddangos yn rhy anodd i mi yn anffodus. Cofion, Alan 15:40, 17 Ionawr 2009 (UTC)
- Dwi'n gweld dy fod di'n cyfieithu'r testun yn y dudalen sgwrs. Beth am ei symud i is-dudalen am rwan, e.e. Wicipedia:Polisi preifatrwydd/newydd? Pob tro pan wela i "sgwrs" yn y newidiadau diweddar, dwi'n meddwl bod trafodaeth yn digwydd! Diolch. Alan 13:32, 24 Chwefror 2009 (UTC)
- Newydd ail-gydio yn y gwaith hwn ac wedi symud y drafft. Lloffiwr 19:13, 28 Mawrth 2009 (UTC)
Y Llyfrgell Luniau...
golyguDw i wedi gadael neges gynnil yn y caffi'n holi hynt a helynt diweddara dy gysylltiad â'r LLG. Unrhyw symudiad? Llywelyn2000 14:42, 22 Mawrth 2009 (UTC)
Yn eithriadol o brysur yn y gwaith ar hyn o bryd. Yn gobeithio cael cyfle i gysylltu â'r Llyfrgell y penwythnos nesaf, ac i roi nodyn ar y Caffi ynglŷn â'r nodiadau sy'n barod i'w trafod. Lloffiwr 13:04, 24 Mawrth 2009 (UTC)
- O! Gwych! Y gwaith pwysicaf allaf feddwl amdano. Mae dyfodol Wicipedia yn dy ddwylo medrus di. Llywelyn2000 19:46, 24 Mawrth 2009 (UTC)
- Unrhyw symudiad o du'r Llyfrgell Genedlaethol? Ydan ni'n disgwyl ymateb ganddynt? Dwi'n barod i'w cyfarfod neu eu ffonio os oes angen. Mae hyn yn hanfodol i Wici symud ymlaen. Llywelyn2000 07:20, 29 Mai 2009 (UTC)
- Dim ymateb i fy e-bost ddiwethaf atynt ond fe wnaf fentro ar y cam nesaf o roi eu trwydded ar waith yr wythnos hon sy'n dod. Y gwaith mawr wedyn fydd ysgrifennu canllaw yn disgrifio sut i uwchlwytho ac ail-ysgrifennu'r dudalen uwchlwytho. Gan nad wyf wedi darganfod sut mae creu cyswllt awtomatig i 'input box' newydd ar gyfer uwchlwytho ffeiliau a thrwydded arbennig, rhaid gwneud y tro gydag eglurhad ar sut i fynd drwy'r broses o wneud y nodiadau ar y cyfiawnhad dros ychwanegu lluniau heb drwydded, heb help 'input box' pwrpasol. Lloffiwr 13:23, 30 Mai 2009 (UTC)
- Canllaw i bwy? I'r LLGC uwchlwytho delweddau o'u ffotograffau sydd wedi'u digideiddio? Beth sydd o'i le ar y botwm arferol "Uwchlwytho Ffeil"? Neu a ydw i'n methu?
- Efallai, ar ôl disgwyl deuddydd, heb ateb i ebost, y byddai'n syniad da eu ffonio? Mae dau fis yn amser hir i ddisgwyl am ebost. Pwy ydy'r cyswllt yn y LlGC? Llywelyn2000 22:44, 30 Mai 2009 (UTC)
- Gosodaist y drwydded ar: Nodyn:Termau LLGC. Rwyt ti'n werth y byd yn grwn! Gwych. Beth ydy'r cmau nesaf? Llywelyn2000 23:09, 15 Mehefin 2009 (UTC)
- Beth ydy'r camau nesaf, lloffiwr? Chwilio am luniau? O ble? Eu gosod gyda'r Nodyn:Termau LLGC? Oes unrhywbeth ar bapur? A ellir sganio'r caniatad a'i roi ar dudalen y Llyfrgell? Llywelyn2000 23:34, 27 Mehefin 2009 (UTC)
- Henffych Eleri? Beth ydy'r diweddaraf gyda'r Llyfrgell genedlaethol? Gweler hefyd fy neges uchod. Llywelyn2000 16:05, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Yn brysur iawn ar hyn o bryd - dof at y gwaith o ysgrifennu'r tudalennau help pan allaf a trwsio'r links, a darganfod sut mae ychwanegu input box, etc,etc,etc,etc pan fydd amser gennyf, os na fydd neb arall wedi bwrw iddi. Lloffiwr 12:42, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Bwrw iddi i wneud beth Lloffiwr? Dwi'n meddwl mai dim ond ti sydd wedi bod yn y trafodaethau, ac felly ti yn unig all wneud hyn. OND (fel y gofynais uchod 27/06/2009) Beth ydy'r camau nesaf, lloffiwr? Chwilio am luniau? O ble? Eu gosod gyda'r Nodyn:Termau LLGC? Oes unrhywbeth ar bapur? A ellir sganio'r caniatad a'i roi ar dudalen y Llyfrgell?
- Yn ail, a oes unrhyw gytundeb ar bapur rhyngom a'r Llyfrgell? Os oes yna efallai mai da o beth fyddai ei sganio a'i gyhoeddi yma.
- Os wyt eisiau help - GWEIDDA! Mae na ddigon ohonom i helpu dim ond i ti ofyn ac egluro beth sydd i'w wneud. Paid a meddwl mod i'n bychanu dy waith mewn unrhyw fodd, yn wir gwn i ti fod wrthi'n ddeheuig iawn dros y blynyddoedd, ond mae hyn yn llusgo ymlaen ers blwyddyn neu ddwy bellach. Llywelyn2000 22:14, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
Y camau nesaf yw -
- ysgrifennu tudalennau cymorth ar uwchlwytho'n gyffredinol, ac ar uwchlwytho lluniau'r llyfrgell
- gwella'r ffurflenni uwchlwytho, yn gyntaf trwy osod cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu nodyn yn rhoi'r cyfiawnhad dros ychwanegu'r llun o gasgliad y Llyfrgell, yna dysgu sut mae ychwanegu cyswllt rhwng y dewisiadau sy'n mynd â dyn yn syth at dudalen sydd ag 'input box' arall sy'n gosod y nodyn cyfiawnhad - rwy'n cael trafferth yn egluro hyn yn iawn achos nad wyf yn ei ddeall yn iawn - os edrychwch ar y ffurflen uwchlwytho ar Wikipedia Saesneg mae yna ddau gam i'r uwchlwytho pan nad oes trwydded rhydd i'r llun - ar ôl pwyso ar y dewis ar gyfer llun heb drwydded rhydd mae'r meddalwedd yn mynd â dyn at dudalen arall gyda'r 'input box' ar gyfer rhoi cyfiawnhad dros lwytho'r llun. Dysgu sut mae hyn yn digwydd sydd angen ei wneud.
- Mae angen dysgu sut mae copïo un o'r lluniau o wefan y llyfrgell a chreu ffeil y gellir ei uwchlwytho ar Wicipedia. Mae'r llyfrgell wedi gosod brawddeg ar eu tudalen rwyn credu sydd yn ein gwahodd i uwchlwytho lluniau o'r casgliad. Nid ydynt am roi caniatad ffurfiol i ni gopïo'r lluniau - dyna pam bod problem yn y lle cyntaf. Lloffiwr 22:58, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Beth am symlhau'r cwbwl? ee 1. Botwm chwith Uwchlwytho ffeil. 2. Llenwi'r rhan 'Crynodeb' gyda un neu ddau o eiriau sy'n cysylltu a'r Drwydded ee Nodyn:Trwydded LLGC. 3.Eistedd yn ol a gwneud paned.
- Dwi'n credu fod ydrwydded wedi ei orffen; ydw i'n iawn?
- Oes gwaith papur rhyngom? Llywelyn2000 23:07, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Beth yw ystyr y cwestiwn 'oes gwaith papur rhyngom?' Lloffiwr 23:32, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- I ailadrodd - Yn ail, a oes unrhyw gytundeb ar bapur rhyngom a'r Llyfrgell? Os oes yna efallai mai da o beth fyddai ei sganio a'i gyhoeddi yma. Llywelyn2000 23:35, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Does dim cytundeb ar bapur. Lloffiwr 23:36, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Oni fyddai hi'n beth da iddynt ddanfon llythyr atat, a'i sganio; rhag ofn iddyn nhw droi ar eu sodlau agwadu'r cwbwl? Llywelyn2000 23:38, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
Neges bwysig i bob gweinyddwr
golyguYn dilyn trafodaeth yn y Caffi (gweler yma), mae Luke wedi creu tudalen newydd ar gyfer materion gweinyddol, sef Negesfwrdd gweinyddiaeth. Y syniad yw defnyddio'r Caffi ar gyfer negeseuon cyffredinol a defnyddio'r bwrdd newydd fel lle i drafod a datrys - gobeithio - materion fel nodiadau, categorïau, fandaliaeth a phethau eraill sy'n rhan o waith gweinyddwyr. Bydd yn gymorth i gadw trafodaethau gyda'i gilydd ac yn rhyddhau lle yn y Caffi. Hoffwn ofyn i bawb sy'n weinyddwr ei roi ar eu rhestr gwylio a'i ddefnyddio. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac yn gwneud ein gwaith yma yn haws. Anatiomaros 21:52, 3 Ionawr 2010 (UTC)
Gwell peidio â gwneud sylwadau amharchus am ein cyd-gyfrannwyr.
golyguNid cyd-gyfrannwr ydy o o hyd ar ôl iddo fo adael. Y ddraig felyn 18:52, 28 Chwefror 2010 (UTC)
Hey Lloffiwr. Thanks for working on the Fundraising supplementary messages. I'm almost done creating the buttons for the "Support Wikipedia" page, but Welsh is missing those messages. Only a few messages (11) are needed and they're pretty simple! Would you mind translating them so that they can be used on the new page? They're the 11 messages in the "Button phrases" part. Thanks, Cbrown1023 02:21, 4 Mawrth 2010 (UTC)
Helo, could you help us, please!
golyguói bore da! Sorry this is the only thing I'm able to write in Welsh for now. I'm Claudi Balaguer, member of a Catalan association "Amical de la Viquipèdia" which is trying to become a Chapter but has seen this rejected because it doesn't belong to a/one state! Since you're Welsh you understand too well what it is to be a speaker of a minorized language. If you think that our action may help all the minorized or stateless languages and preserve our cultures you can paste the following template on your user page Wikimedia CAT. Thanks/diolch for your help! I wish you a pleasant and sunny summertime. Take care, hwyl fawr! Capsot 10:20, 15 Mehefin 2010 (UTC)
Blwch defnyddiwr
golyguHelo, s'mai? Dwi newydd greu blwch i'w ddefnyddio i ddweud bod rhywun yn weinyddwr. Defnyddia'r cod {{Defnyddiwr:Xxglennxx/Blychau/Gweinyddwr}} os hoffet ti :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:38, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)
Wikibooks Logo: Project name & Slogan
golyguHello Lloffiwr. I'm currently collecting project names and slogans as a part of a logo cleanup. Would you mind providing a translation of the following phrases for the Welsh (cy) Wikibooks logo?
- Wikibooks
- Open books for an open world (or "Free books for a free world" if that's easier to translate) = ?
Please put your translation on my Meta-Wiki talk page. Thanks in advance for your help! Cbrown1023 sgwrs 01:57, 24 Awst 2010 (UTC)
Wiciquote
golyguHeia! Dw i wedi ymateb i dy neges ar fy nhudalen sgwrs ;o) Pwyll 08:11, 15 Mai 2011 (UTC)
s'mae
golyguS'mae,
Dwi newydd fod yn dringo mynyddoedd yn Eryri am wythnos gyfan, ac rwan mae gen i gefn tost iawn, felly rhaid i mi feio Cymru am fy nghefn poenus ;-) Fodd bynnag dwi heb reswm dros gwyno i ddweud y gwir; cefais i hyd yn oed gyfle i ymarfer fy Nghymraeg efo rhywun ar ben Tryfan (piti bod fy Nghymraeg lafar mor wael). Mynyddoedd arbennig o wych ydyn nhw; does dim ond bryniau bychain fan hyn yn ne Lloegr.
Ha, dwi di ceisio cyfieithu'r paragraff uchod i'r Saesneg gyda Google Translate i sicrhau nad wyf yn ysgrifennu nonsens, ond mae o di cyfieithu "Cymru" fel "Government"! Anghredadwy! Rhaid i'w fewnbwn gynnwys llawer o destunau lle mae'r gair "llywodraeth" yn ymddangos ar ôl "beio"! Amser i mi fod yn hyderus yn fy hun ac anwybyddu Google Translate, mae'n debyg.
Dwi'n gobeithio bod popeth yn iawn gyda phawb yma. Hwyl am y tro.
Cyfieithu
golyguHeia! Os wyt ti eisiau cymorth gyda'r cyfieithu rho wybod ac fe wna i ngore i weld beth alla i wneud. Weithiau mae gwaith yn y byd go iawn yn golygu nad yw'n ymarferol i mi gyfieithu ond os oes moment sbar gyda fi, fe wna i ngorau ;o) Pwyll 18:18, 3 Chwefror 2012 (UTC)
Eisteddfod 2012
golyguRhag ofn bod gweithgarwch y bot wedi golygu dy fod wedi methu fy ngolygiad diweddaraf yn Y Caffi ar bwnc Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, plis cer draw ASAP, mae angen i ni drefnu pethau cyn gynted a bo modd. Diolch. --Ben Bore (sgwrs) 20:58, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)
- Diolch am ymateb. Petai ti'n gallu mynd, byddai'n wych petai ti'n gallu mynd ar dydd Mercher. Ar hyn o bryd, mond Llywelyn2000 sy wedi cadarnhau bydd yno - dw i ar fin dechrau swydd newydd a ddim yn siwr o'm sefyllfa i eto! Mond nifer cyfyngedig o liniaduron fydd yno, mond rhyw dri/bedwar falle, felly os nad yw'n ormod o drafferth i ti fynd a gliniadur hefyd, cer ag un, ond paid poeni os na alli di neu'n teimlo bydd yn sdrach. Mae mynediad gyda ni i le diogel i adael offer dan glo so nad wyt eisiau ei lusgo gyda ti drwy'r dydd.--Ben Bore (sgwrs) 21:15, 16 Gorffennaf 2012 (UTC)
Hysbys uniaith Saesneg ar ben y ddalen!
golyguBore da Lloffiwr! Ble mae cyfieithu'r hen hysbyseb hyll (uniaith Saesneg) sydd wedi ymddangos ar dop ein herthyglau? Participate in the proposal for a new Wikimedia Foundation travel guide project! Mae'n stico mas, chwedl fy nain! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)
- Diolch am ymholi ac am ymateb mor gyflym! fe ddown o hyd i'r ffynhonnell rywsut! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:39, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)
Bendigedig fyddo Lloffiwr! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:25, 24 Gorffennaf 2012 (UTC)
Translation notification: Wikimedia Highlights, July 2012
golyguYou are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Highlights, July 2012 is available for translation. You can translate it here:
The priority of this page is medium.
Note: This time, the "Wikimedia Foundation highlights" section does not include the usual coverage of the most notable work of Foundation staff during that month. Instead, it contains a list of talks given by Foundation staff at Wikimania, summarizing their most important work the year over. It looks like a lot of text, but only the talk titles will need to be translated. The intention is that these titles alone can already give readers a good overview of what the Foundation is working on in general.
You are receiving this message because you signed up to the new translation notification system. Questions about this system can be asked at [2], and you can manage your subscription at [3].
Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.
Thank you!
Meta translation coordinators, 00:22, 3 Medi 2012 (UTC)Translation notification: Fundraising 2012/Translation/Donor information pages
golyguYou are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Fundraising 2012/Translation/Donor information pages is available for translation. You can translate it here:
The priority of this page is high. The deadline for translating this page is 2012-09-24.
Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.
Thank you!
Meta translation coordinators, 13:49, 7 Medi 2012 (UTC)Translation notification: Wikimedia Highlights, August 2012
golyguYou are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Highlights, August 2012 is available for translation. You can translate it here:
The priority of this page is medium.
Please consider helping non-English-language Wikimedia communities to stay updated on the most important WMF activities, MediaWiki development work and other international news from the past month.
You are receiving this message because you signed up to the translation notification system. Questions about this system can be asked at [4], and you can manage your subscription at [5].Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.
Thank you!
Meta translation coordinators, 16:01, 18 Medi 2012 (UTC)Translation notification: Fundraising 2012/Translation/Landing Page and Banner messages
golyguYou are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Fundraising 2012/Translation/Landing Page and Banner messages is available for translation. You can translate it here:
The priority of this page is high.
Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.
Thank you!
Meta translation coordinators, 13:52, 20 Medi 2012 (UTC)- Cwblhawyd
... ond mae angen ei wiro. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:23, 21 Medi 2012 (UTC)
Configuring the mobile main page
golyguHi,
Can you please configure the mobile main page for this Wikipedia? See Sgwrs:Hafan at the bottom.
Thanks! --Amir E. Aharoni (sgwrs) 23:37, 23 Medi 2012 (UTC)
- If nobody beats me to it, I will look at this in a few days' time. Lloffiwr (sgwrs) 19:05, 27 Medi 2012 (UTC)
Translation notification: Fundraising 2012/Translation/Jimmy Appeal
golyguYou are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Fundraising 2012/Translation/Jimmy Appeal is available for translation. You can translate it here:
The priority of this page is high. The deadline for translating this page is 2012-10-31.
Last years translation/El año pasado, traducción/العام الماضي ترجمة/Прошлогодний перевод
This letter is a new translation request, but re-uses large parts of the 2011 Jimmy Appeal, with slight modifications in the second version.
If the 2011 Jimmy Letter has been translated into your language, you can probably re-use much of it for this translation. :-)Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.
Thank you!
Meta translation coordinators, 18:43, 27 Medi 2012 (UTC)Hysbys Saesneg
golyguCwestiwn bach yn y caff; diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:40, 20 Ionawr 2013 (UTC)
BOT-Twm Crys
golyguMae Defnyddiwr:BOT-Twm Crys yn medru gwneud gwaith boring fel cywiro un gair gannwaith: gweler y Sgwrs yn y Caffi. Gelli adael cais ar ei ddalen Sgwrs. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:34, 16 Chwefror 2013 (UTC)
Arbrawf
golyguarbrawf Lloffiwr (sgwrs) 14:52, 9 Tachwedd 2013 (UTC)
Llyfr Du Caerfyrddin ar WiciDestun
golyguDw i newydd uwchlwytho sgans o'r Llyfr cyfan ar Comin, gyda dolen a gwybodaeth ar WiciDestun. Diolch i ti am dy waith ar W-Destun gyda'r Categoriau. Dw i wedi dilyn dy argymhellion di a Defnyddiwr:Anatiomaros. Tybed a wneid di wiro'r Cats, os gweli di'n dda? Byddai rhyw fath o fotwm / Nodyn / Dolen o Wicipedia i WiciDestun hefyd yn beth da. Unrhyw awgrym? Dwi hefyd wedi gadael pwt ar dudalen Sgwrs Anatiomaros. Diolch eto. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:07, 22 Rhagfyr 2013 (UTC)
Request for Help, please
golyguGreetings Lloffiwr ,
Nice to meet you.
Could you kindly help me translate this article into the unique and wonderful Welsh language? Please. (because the current welsh version needs to be expanded or else it might be deleted by a certain welsh admin.)
Your help would be very Gratefully Appreciated, Thankyou very much. --Jose77 (talk) 05:18, 13 April 2013 (UTC)
Llyn Mynydd-gorddu
golyguSut mae ers talwm? Dwi'n gweld dy fod wedi ehangu'r erthygl Trefeurig heno a hefyd wedi creu'r categori i'r gymuned honno felly mae'n siwr dy fod yn 'nabod yr ardal yn reit dda. Tybed fedri di wiro'r eginyn erthygl newydd Llyn Mynydd-gorddu - dwi'n methu ffeindio o ar y map OS o gwbl a does gen i ddim manylion amdano chwaith, yn anffodus. Diolch yn fawr, a chofion cynnes, Anatiomaros (sgwrs) 00:13, 27 Awst 2014 (UTC)
- Diolch am y neges. Fe fyddaf yn ehangu rhywfaint ar y 5 erthygl SSSI sydd yn Nhrefeurig cyn hir, ac yn rhoi dolen at y dudalen berthnasol ar wefan y Cyngor Cefn Gwlad. Bydd map yn dangos y lleoliadau ar y tudalennau hynny. Erbyn edrych dwi wedi rhoi'r ddolen ar waelod tudalen Gwaun Troed-rhiw-seiri a llyn mynydd-gorddu yn barod. Ar wefan y Cyngor Cefn Gwlad fe weli adran "Mapiau". Cewi weld map y gellir ei chwyddo fan honno. Mae mapiau Stratus Connect ar wefan Cyngor Sir Ceredigion yn dangos ffiniau'r gymuned hefyd. Mae'r ffin yn mynd trwy ganol y llyn! Lloffiwr (sgwrs) 12:42, 27 Awst 2014 (UTC)
- Cliw arall yw bod y llyn i'r de-ddwyrain o Font-goch, islaw fferm Mynydd-gorddu a'r fferm wynt o'r un enw. Dwi heb fy argyhoeddi bod angen erthyglau ar wahan ar y SoDdGA a'r llyn fach hon, ond fe af ati i ehangu rhywfaint ar hanes diwydiannol y gronfa, pan gaf fi gyfle. Lloffiwr (sgwrs) 21:58, 27 Awst 2014 (UTC)
- Aha, dwi wedi cael hyd iddo rwan. Diolch. Dim enw ar y map OS 1:50,000. Ydy, mae'n fychan braidd ond ar y llaw arall llyn 'di llyn ac mae llyn yn "amlycach" yn nhermau'r Wici na rhai o'r SoDdGau mân iawn fel 'Cae Hwn-a-hwn' (0.25 ha), efallai. Diolch eto a hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 23:30, 27 Awst 2014 (UTC)
- Cliw arall yw bod y llyn i'r de-ddwyrain o Font-goch, islaw fferm Mynydd-gorddu a'r fferm wynt o'r un enw. Dwi heb fy argyhoeddi bod angen erthyglau ar wahan ar y SoDdGA a'r llyn fach hon, ond fe af ati i ehangu rhywfaint ar hanes diwydiannol y gronfa, pan gaf fi gyfle. Lloffiwr (sgwrs) 21:58, 27 Awst 2014 (UTC)
Uwchlwytho ffeiliau, Dewin Uwchlwytho?
golyguHello! Sorry for writing in English. As you're an administrator here, please check the message I left on MediaWiki talk:Licenses and the village pump. Thanks, Nemo 19:22, 18 Medi 2014 (UTC)
Codio mewnol
golyguHaia Eleri, ers tro byd! Gobeithio dy fod yn cadw'n iawn. Mae na sgwrs yn y Caffi am newid rhai o'r cod mewnol (ychwanegu'r fersiwn Cymraeg) e.e. <ref> ychwanegu --> <cyf>, <gallery> ychwanegu --> <galeri>, Wyt ti'n cofio ble mae newid y rhain? Diolch a chofion! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:04, 20 Gorffennaf 2016 (UTC)
Sefydlu grwp newydd, swyddogol.... Wicimedia Cymru
golyguRhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:33, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
Administrator status on cy.wikipedia
golyguHello. A policy regarding the removal of "advanced rights" (administrator, bureaucrat, etc.) was adopted by community consensus in 2013. According to this policy, the stewards are reviewing activity on wikis with no inactivity policy.
You meet the inactivity criteria (no edits and no log actions for 2 years) on the wiki listed above. Since that wiki does not have its own rights review process, the global one applies.
If you want to keep your rights, you should inform the community of the wiki about the fact that the stewards have sent you this information about your inactivity. If the community has a discussion about it and then wants you to keep your rights, please contact the stewards at m:Stewards' noticeboard, and link to the discussion of the local community, where they express their wish to continue to maintain the rights.
If you wish to resign your rights, you can reply here or request removal of your rights on Meta.
If there is no response at all after approximately one month, stewards will proceed to remove your administrator and/or bureaucrat rights. In ambiguous cases, stewards will evaluate the responses and will refer a decision back to the local community for their comment and review. If you have any questions, please contact the stewards. Green Giant (sgwrs) 09:21, 8 Mawrth 2018 (UTC)
How we will see unregistered users
golyguHi!
You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.
When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.
Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.
If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.
We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.
Thank you. /Johan (WMF)
18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)