Stranraer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae '''Stranraer''' yn dref a phorthladd yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orlewin Yr Alban. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, [[Go...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:21, 30 Gorffennaf 2007

Mae Stranraer yn dref a phorthladd yn sir Dumfries a Galloway yn ne-orlewin Yr Alban. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon.

Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon.

Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw 'Din Reged', "Caer Reged", a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.