Rheged
Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6g. Yn ei hanterth, roedd yn roedd yn cynnwys pob rhan o'r 'Cumbria' fodern, gan gynnwys Catraeth, ac ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas. Roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yng ngogledd-orllewin Lloegr (i'r dwyrain o'r Pennines ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban; roedd yn cynnwys Dumfries a Galloway ac o bosib Swydd Ayr (neu Deyrnas Aeron). Eu harweinyddion mwyaf adnabyddus oedd Urien a'i fab Owain. Daeth y deyrnas i ben oddeutui 635 pan briododd gorwyres Urien gyda'r Tywysog Oswiu o Northumbria. Ceir cyflwyniad o hanes y deyrnas yng Nghanolfan Rheged yn Penrith, Cumbria.
Allwedd: |
Ceir cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), a hefyd fel arglwydd Catraeth.
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
- Meirchion Gul
- Cynfarch fab Meirchion
- Urien Rheged neu Urien ap Cynfarch
- Owain ab Urien
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.
Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswy, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma.
Heddiw
golyguRhoddwyd enw’r deyrnas i’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn â Chymry.