Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
'''Diwygiad [[1904]]-[[1905]]''' oedd y diwygiad mawr Cristnogol olaf i genedl y Cymry ei weld. Mi fyddai rhai yn dadlau fod rhai adfywiadau lleol wedi digwydd ers hynny; er enghraifft bendith Cross Hands yn y 1950au a'r fendith ymysg myfyrwyr Cymraeg yn yr 1970au - ond nid oes dim byd wedi dod yn agos i'r gwynt a chwythodd drwy Gymru ganrif yn ol.
Llinell 7:
Yn 1859 y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er 1850 roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol Calfinaidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i weinidogaeth y pregethwyr mawrmegis Christmas Evans (1838), John Elias (1841) a Henry Rees (1869). Wedi'r i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gywirdeb Beiblaidd ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol.
Cyn diwygiad 1904-1905 daeth dau feddyliwr pwysig i'r sffêr gyhoeddus, ill dau yn her i Gristnogaeth yn eu ffordd eu hunain. Yr athronydd gwleidyddol Karl Marx a gyhoeddodd y ''Maniffesto Gomiwnyddol'' (1848) a ''Das
Felly erbyn 1904 roedd sawl eglwys a sawl arweinydd Cristnogol yng Nghymru wedi troi cefn ar y traddodiad Calfinaidd, bellach roedd eu Cristnogaeth yn ddim byd mwy nag rhan o'i diwylliant; nid oedd iddo elfen ddwyfol ddifrifol. Rhaid ystyried y cefndir yma er mwyn deall y Gymru fu'n llwyfan i ddiwygiad 1904-1905, roedd Cymru'n newynog am adfywiad ysbrydol.
Llinell 14:
Hyd yma mae'n bosib fy mod wedi rhoi portread rhy dywyll o Gymru rhwng 1859 a 1904. Fe fu Duw'n gweithio mewn adfywiadau lleol ar amseroedd gwahanol; bu adfywiadau lleol
Llinell 26:
Arweinydd blaenllaw yn y diwygiad oedd gweinidog Methodistaidd Ceinewydd, [[Joseph Jenkins]]. Yn ystod 1903 roedd yn awchu am adfywiad ysbrydol yng Nghymru. Mewn gweddi daeth rhyw fendith arno a wrth bregethu yn Chwefror 1904 daeth i sylweddoli mae'r gwynt tu ôl i'w bregethu oedd gwynt y diwygiad. Fe fywiogodd bywyd ei eglwys ac fe gynyddodd y niferoedd, teithiodd ef ac aelodau o'i eglwys i dystiolaethu mewn pentrefi a threfi cyfagos.
Erbyn Medi 1904 fe drefnwyd cynhadledd ym Mlaenannerch. Fe adroddwyd fod bendith aruthrol wedi bod yn y gynhadledd ac fe ledaenwyd y newydd drwy'r ardal a thu hwnt. Fe adroddwyd yr hanes yn y South Wales Daily News, adroddasant fod y 'trydydd diwygiad mawr' ar droed trwy Gymru!
Llinell 34:
Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, [[Rhydaman]], eglwys [[Nantlais Williams]]. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.
Ymhell cyn clywed son am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins yn siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib mae'r digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau man y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan yr enwad, gwerth fyddai nodi na ddaeth Nantlais ei hun yn Gristion tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins a Rhydaman yn Nhachwedd 1904, daeth i gadwedigaeth ar y Nos Sadwrn, noswyl ymweliad Joseph Jenkins.
Llinell 42:
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins am daith bregethu tair mis i Ogledd Cymru. Bendithiwyd cyfarfydd yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[Llannerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Ond digwyddodd y fendith fwyaf ym Methesda, disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad J.T Job gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr [[22 Rhagfyr|22ain o Ragfyr]] 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yna am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===
Llinell 56:
Dyma oedd y diwygiad cyntaf i'r cyfryngau poblogaidd chwarae rôl. Roedd y ''[[Western Mail]]'' a'r ''[[South Wales Daily News]]'' wedi chwarae rhan allweddol yn lledaenu’r newyddion fod diwygiad yn y tir. Fe roddwyd sylw arbennig i Evan Roberts a'i waith gan y ''Western Mail''.
|