Isaac Carter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
adio ffynonellau
Llinell 3:
==Bywgraffiad==
Ychydig a wyddys amdano. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys ond ymddengys yn bur sicr ei fod yn frodor o dref [[Caerfyrddin]]. Sefydlodd wasg yn hen fwrdeistref Trefhedyn ([[Adpar]]) yn [[1718]]. Cynnyrch cyntaf y wasg oedd dau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys, a gyhoeddwyd yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn Adpar yn cynnwys ''Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa'' (1719), ''Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol'' (1722) a ''Christion Cyffredin'' (1724). Parhaodd i gyhoeddi llyfrau tebyg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1741.
 
=== Ffynonellau: ===
Ifano Jones, ''A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923'' (1925)
 
''Journal of the Welsh Bibliographical Society'', i, 129-32;
 
J.H.Davies, ''A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18th Century'' (1908-11)
 
==Cyfeiriadau==