Pa hwyl Emyr a chroeso cynnes i Wici-bach-ni! Unrhyw gwestiwn, gofynwch ar fy nhudalen Sgwrs neu yn y Caffi. Pob hwyl arni! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:52, 12 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Shwmae, Emyr Ceredig Evans! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,423 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 19:07, 12 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Mwynhau dy erthyglau! Gwych. Dw i newydd ychwanegu dy erthygl Hugh Owen (yr Hynaf) ar Wicidata er mwyn ido ymddangos yn y Wicipedia:Rhestr y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. mi gymrith chydig o ddyddiau i ymddangos, ond cyn belled bod y man geni ar Wicidata, a'r dyddiad geni, da ni yn iawn! Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:53, 27 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Dwy erthygl wahanol am yr un person. golygu

Mae Defnyddiwr:Llydawr wedi tynnu ein sylw ar dudalen Sgwrs Cadell ap Gruffydd fod erthygl yn bodoli eisioes: Cadell ap Gruffudd (sillafiad Cymreicach). Tybed a wnei di ychwanegu'r rhannau newydd i'r erthygl Cadell ap Gruffudd os gweli di'n dda, gan mai honno oedd yno gyntaf, a gan ei bod yr un mor swmpus? Diolch o galon! ON Dw i wedi gwneud rhywbeth tebyg sawl tro! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:29, 3 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

OK diolch am adael imi wybod. Ddoi nol at hyn rhwybryd eto. Hwyl tan hynny. madog1000 (sgwrs) 12:07, 7 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Sylwer

Mi wnest ti greu erthygl ar Frederick Archibald Vaughan Campbell‎, ond yn anffodus, roedd yn bodoli'n barod: Frederick Campbell, 3ydd Iarll Cawdor. Dw i wedi ei hailgyfeirio, felly. Os wnei di gymryd cip arall ar be sgwennais i uchod, ddyle hyn ddim digwydd! Paid a phoeni! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:49, 28 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Diolch yn fawr am eich erthyglau diweddar am bobl hanesyddol Cymreig. A hoffech chi gymryd rhan yng nghystadeluaeth Deffro'r Ddraig, ar gyfer creu a gwella erthyglau am Gymru, ym mis Ebrill? Mae cyfle i ennill tocynnau rhodd gwerth hyd at £200 oddi wrth Amazon. Mae llwyth o erthyglau posib i'w creu o'r newydd ar y rhestr o erthyglau hanfodol, gan gynnwys Brwydr Cilmeri, Senedd-dy Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth a nifer o aelodau'r Cynulliad. Gallwch gofrestru fan hyn. Ham II (sgwrs) 15:49, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Y Canrifoedd Coll! golygu

Haia! Wnes i ddarllen yn rhywle ddoe dy fod yn chwilio am y drafodaeth ar newid arddull y canrifoedd? Os do, yna dyma fo! Diolch am dy ysgogiad! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:02, 28 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Cyfuno dwy ethygl, eto golygu

Haia. Mae Caradog ap Gruffudd yn bodoli'n brod Emyr! Gruffudd efo u ydy'r ffurf Gymraeg, a'r drefn arferol ar wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:26, 5 Mai 2016 (UTC)Ateb

Arddull Wici golygu

Newydd fod yn cywiro arddull Cecil o Allt-yr-ynys i ti. Y prif pethau i'w cofio:

  1. swydd Norfolk --> Swydd Norfolk
  2. yno , ond --> yno, ond (hy dim bwlch cyn collnod)
  3. angen categori (o leiaf un)
  4. angen cyfeiriad at y wybodaeth - neu o leiaf ddolen allanol.

Ond yn bennaf - mae'r Bywgraffiadur yn rhoi cryn sylw i 'deuluoedd'. Erthyglau ar unigolion sydd gan Wici fel arfer, gyda phwt ar y teulu, er mwyn eu crynhoi. Mae gwybodaeth fel hyn o ddiddordeb mawr i ddarllenwyr Wici a diolch amdano! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:58, 26 Awst 2016 (UTC)Ateb

Newydd greu rhai erthyglau ar wahan i'r plant unigol. Gelli weld y dolennau ar Ceciliaid Allt-yr-ynys. newidiais yr enw i ddilyn y patrwm arferol 'Wyniaid Wynnstay' ayb, ond newidia fo yn ol, os wyt yn meddwl mai gwell hynny. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 26 Awst 2016 (UTC)Ateb