Afon Yenisei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up, replaced: |ewin bawd| → |bawd| (2) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Yenisei basin 7.png|200px|ewin bawd|Rhwydwaith afonol Afon Yenitsei]]
 
[[Afon]] fawr yng nghanolbarth [[Rwsia]] yw '''Afon Yenisei''' ([[Rwseg]]: Енисе́й). Dyma'r afon fwyaf i lifo i'r [[Cefnfor Arctig]], sydd hefyd, gyda hyd o 5,539 km (3,445 milltir), y bumed afon yn y byd o ran ei maint. Gan darddu ym [[Mongolia]], mae'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd i lifo i mewn i Gwlff Yenisei ar y [[Môr Kara]]. Yn [[Siberia]] mae nifer fawr o afonydd llai yn aberu ynddi, yn cynnwys [[Afon Angara]], sy'n tarddu yn [[Llyn Baikal]], ac [[Afon Tunguska Isaf]]. Mae basn dalgylch Afon Yenisei yn dynodi terfyn dwyreiniol [[Gwastadedd Gorllewin Siberia]].
 
[[Delwedd:Bank of Yenisei River.jpg|250px|ewin bawd|chwith|Afon Yenisei yn llifo heibio i [[Krasnoyarsk]]]]
 
Yn ei rhannau uchaf mae'n llifo trwy ardaloedd anghysbell yn ardal [[Crai Krasnoyarsk]] lle nad oes llawer o bobl yn byw. Yn ei chwrs canol ceir cyfres o [[argae]]au [[trydan dŵr]] sy'n ffynhonnell ynni bwysig yng nghanolbarth Rwsia. Cafodd rhai o'r argaeau hyn eu codi gan lafur penyd o'r ''[[gulag]]s'' ac mae [[llygredd]] yn broblem heddiw. Mae'n llifo yn ei blaen i'r gogledd trwy ardal o dirwedd [[taiga]] eang, gan dderbyn nifer fawr o afonydd a ffrydiau, i gyrraedd Môr Kara mewn ardal o dirwedd [[twndra]] lle mae'n rhewi am hanner y flwyddyn.