Anhrefn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 14:
| notable_instruments =
}}
Band [[pync-roc]] Cymraeg a ffurfiwyd ym [[1982]] yw '''Yr Anhrefn'''. Ym 1987, daeth yr Anhrefn y band Cymraeg cyntaf eu hiaith i arwyddo i gwmni recordio rhyngwladol (Workers Playtime). Wnaeth y band recordio dwy albwm efo'r cwmni, "Defaid, Skateboards & Wellies" ym 1987 a "Bwrw Cwrw" ym 1989.
Recordiodd y band dair sesiwn i'r gohebydd cerdd enwog, John Peel ac yn eu hanterth roeddent yn perfformio hyd at 300 o gigs y flwyddyn ledled Ewrop. Yr Anrhefn hefyd oedd un o'r bandiau cyntaf i berfformio yn Nwyrain Berlin. Ymddangosodd y band ar raglen gerdd Channel 4, 'The Tube' yn 1987, er i'r cylchgronau Cerddoriaeth Prydeinig anwybyddu llwyddiant Yr Anrhefn ar y cyfan. Caiff enw'r band (wedi ei gamsillafu fel 'Anrhefn') a phortread chwaraewr bâs [[Rhys Mwyn]] ei ymddangos ar ochr yr adeilad gwasg [[Y Lolfa]] yn [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]], [[Ceredigion]]. Maent yn ymddangos yn yr awdl 'Gwawr' gan [[Meirion MacIntyre Huws]] a ddaeth yn fuddugol yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993]]. Yn 2007 atgyfodwyd Yr Anrhefn ond y tro hwn heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu.
==Recordiau Anrhefn==
Yn 1983, lansiodd y band label recordio annibynnol, 'Recordiau Anrhefn' gan ryddhau nifer o recordiau cynnar gan [[Y Cyrff]], [[Datblygu]], [[Llwybr Llaethog]], [[Fflaps]] a [[Tynal Tywyll]]. Diolch i'r label, enillodd fandiau Cymreig adnabyddiaeth a chlod tu hwnt i Glawdd Offa.
==Disgyddiaeth==
|