Cyfiawnder: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Justice statue.jpg|bawd|200px220px|SymbolCerflun Cyfiawnderyr Arglwyddes Gyfiawn, symbol cyfiawnder.]]
Cysyniad ym meysydd [[cyfreitheg]], [[athroniaeth wleidyddol]] a [[moeseg]] yw '''cyfiawnder''' sy'n ymwneud â thrin person yn deg, yn [[moesoldeb|foesol]], ac yn [[amhleidioldeb|amhleidiol]].<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=cyfiawnder |dyddiadcyrchiad=29 Tachwedd 2016 }}</ref> Yr ystyr athronyddol yw cymesuredd briodol rhwng haeddiant yr unigolyn a'r pethau drwg a da mae'r unigolyn yn ei dderbyn.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/topic/justice-social-concept |teitl=justice (social concept) |dyddiadcyrchiad=29 Tachwedd 2016 }}</ref> Mae cyfiawnder yn gysyniad sylfaenol o fewn y rhan fwyaf o [[y gyfraith|systemau cyfreithiol]] gan ddilyn gwerthoedd a thraddodiadau cymdeithasol. Mae [[cyfiawnder cymdeithasol]] yn crybwyll trefn gyfiawn y tu allan i'r llysoedd barn. Ystyrir cyfiawnder yn nodwedd neu amcan hanfodol i'r [[gwladwriaeth|wladwriaeth]]. O safbwynt y [[pragmatiaeth|pragmatydd]], cyfiawnder yw'r enw am ganlyniad teg. Yn ei gyd-destun [[crefydd]]ol, cydymffurfio â [[deddf Duw]] yw ystyr cyfiawnder sy'n cynnwys uniondeb rhwng dyn a'i gymydog.<ref name=GPC/>
'''Cyfiawnder''' (o ''[[cyfiawn]]'') yw'r gysyniad o drin person yn deg, yn [[Moesoldeb|foesol]], ac yn [[Amhleidioldeb|amhleidiol]].
 
Syniadaeth [[Aristotlys]] sy'n sail i'r mwyafrif o drafodaethau Gorllewinol am gyfiawnder. Disgrifiodd natur [[rhinwedd|rinweddol]] a [[dibenyddiaeth|dibenyddol]] cyfiawnder. Aeth meddylwyr ers hynny i'r afael â chyfiawnder drwy wahanol ddulliau ac agweddau, ac yn adlewyrchu amryw o [[ideoleg]]au a systemau meddwl. Pwysleisiodd rhinwedd cyfiawnder gan nifer o ddilynwyr Aristotlys a [[ceidwadaeth|cheidwadwyr]]. Datblygodd [[Immanuel Kant]] athroniaeth [[dyletswyddeg]] a'r gorchymyn diamod: rheol foesol mae'n rhaid i bawb ufuddhau iddi er gwaethaf y cymhelliad neu'r canlyniad. Dadleuodd y [[defnyddiolaeth|defnyddiolwyr]] cyntaf, [[Jeremy Bentham]] a [[John Stuart Mill]], taw'r lles cyffredin yw'r unig ystyriaeth parthed cyfiawnder. Lluniodd [[John Rawls]] yr egwyddor wahaniaethol, sy'n gosod tegwch yn sail i'w drefn gyfiawnder. Nod syniadau [[rhyddfrydiaeth|rhyddfrydol]] a [[cymunedoliaeth|chymunedol]] megis gwaith Rawls yw ceisio gwrthbwyso'r effaith sydd gan ffawd economaidd a grym gwleidyddol ar ein cymdeithas. Gwrthodwyd hyn gan [[rhyddewyllysiaeth|rhyddewyllyswyr]] megis [[Robert Nozick]]: rhyddid yr unigolyn a hunanberchenogaeth yw sail cymdeithas ac felly'r drefn gyfiawnder yn ôl nhw.
Mae cyfiawnder yn gysyniad sylfaenol o fewn y rhan fwyaf o systemau [[Cyfraith|cyfreithiol]] gan ddilyn gwerthoedd a thraddodiadau cymdeithasol cydnabyddedig. O safbwynt [[pragmatiaeth]], cyfiawnder yw'r enw am ganlyniad teg.
{{eginyn athroniaeth}}
{{eginyn cyfraith}}
 
Ceir nifer o fathau o gyfiawnder mewn [[penydeg]] a damcaniaeth gyfreithiol. Atal ail-droseddu yw amcan cyfiawnder adferol, a thrin y drosedd o safbwynt y dioddefwr a'r gymuned yn hytrach na'r wladwriaeth. Pwrpas y system gyfiawnder yw i [[cosb|gosbi'r]] drwgweithredwr yn ôl cyfiawnder dialgar.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* Michael J. Sandel. ''Justice: A Reader'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007).
* Michael J. Sandel. ''Justice: What's the Right Thing to Do?'' (Penguin, 2010).
 
== Dolenni allanol ==
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
* {{eicon en}} [http://www.justiceharvard.org/ Cwrs Michael Sandel ar gyfiawnder], Prifysgol Harvard.
 
[[Categori:Cyfiawnder| ]]