Celf Islamaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 langlinks, now provided by Wikidata on d:q189594
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae patrymau yn nodwedd boblogaidd gan arlunwyr Mwslimaidd ers canrifoedd. Dylanwadwyd [[mathemateg Islamaidd]] yn gryf gan weithiau'r Hen Roegwyr, ac felly roedd [[geometreg]] yn bwysig mewn diwylliant Islam. Defnyddiodd arlunwyr batrymau geometrig sy'n ail-adrodd, yn cylchdroi ac yn adlewyrchu. Defnyddiwyd celf batrymog i addurno waliau, lloriau, carpedi, potiau, lampiau, cloriau llyfrau, a thecstilau, yn enwedig yn y [[mosg]].
 
Roedd negeseuon crefyddol gan rai o'r patrymau. Maent yn dechrau mewn canol cylch: mae'r cylch yn symboleiddio [[Allah]], sef un duw heb ddiwedd, ac mae'r canol yn symboleiddio [[Mecca]], a thuag at y ddinas sanctaidd hon mae Mwslimiaid yn wynebu wrth weddïo. Mae natur ailadroddus patrymau yn gallu cynrychioli deddf ddinewid Allah. O'r cylch gellir tynnu siapiau eraill yn fanwl gywir, a'r dair ffurf sylfaenol yng nghelfyddyd Islamaidd yw'r triongl, y sgwâr a'r hecsagon. Caiff rhain eu llunio a'u cyfosod i greu patrymau cylchdroëdig ac adlewyrchol o frithwaith geometrig neu gylymau a chadwyni plethedig. Mae symbol y seren a'r cilgant yn bresennol mewn nifer o ddyluniadau. Ymgorfforir [[caligraffeg]] [[Arabeg]] yn y gelfyddyd yn aml.
 
Hyd heddiw, arddurnir mosgiau gyda phatrymau tebyg i gelfyddyd Islamaidd draddodiadol. Ni chaniateir unrhyw gelfyddyd yn y neuadd weddïo, ond adeiladwyd nifer o fosgiau gydag addurniadau allanol crand a deiniadol. Gwelir patrymau hefyd ar gopïau o'r [[Coran]] a llyfrau eraill, a dillad a wisgir gan Fwslimiaid, a chynnyrch y [[crochenwaith|crochenydd]] a'r [[chwythu gwydr|chwythwr gwydr]].
 
[[Categori:Celfyddyd Islamaidd| ]]