Traeth Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae'r '''Traeth Coch''' yn draeth tywodlyd llydan ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn. Mae'n gorwedd rhwng Trwyn Dwlban ger pentref Benllech i'r gorllewin a Llaniestyn i'r dwyr...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae'r '''Traeth Coch''' yn draeth tywodlyd llydan ar ochr ddwyreiniol [[Ynys Môn]]. Mae'n gorwedd rhwng Trwyn Dwlban ger pentref [[Benllech]] i'r gorllewin a [[Llaniestyn]] i'r dwyrain. Mae'n cael ei adnabod fel ''Red Wharf Bay'' yn Saesneg.
 
Rhed [[afon Nodwydd]] i'r traeth, sy'n ffurfio [[bae]] agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref [[Pentraeth]] ; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.
 
Bu'r Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â [[Gwrachod Llanddona]] ; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.
 
Ar un adeg roedd [[rheilffordd]] ar hyd ymyl orllewinol y traeth yn cysylltu Benllech a [[Pentre Berw]], ar brif [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru|reilffordd y Gogledd]] dros yr ynys.