Benllech

tref yn Ynys Môn

Tref yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, yw Benllech.[1][2] Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.Pentref mawr ar Ynys Môn yng Nghymru yw Benllech.

Benllech
Traeth Benllech - geograph.org.uk - 568466.jpg
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,332 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3203°N 4.2258°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH518828 Edit this on Wikidata
Cod postLL74 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Poblogaeth Benllech yw 3,382, felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys. Mae benllech yn lanmor neis.

Y dref heddiwGolygu

Mae Benllech efo'r traeth mwyaf poblogaidd ar yr ynys gyda thywod euraid a dyfroedd glas clir sy'n hynod o ddiogel ar gyfer ymdrochi a ffadlo. Celr ysgol gynradd, meddygfa medddyg teulu, llyfrgell, swyddfa bost a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.Mae yna Spar,Co-op a Tesco yn y pentref.

Mae Ysgol Goronwy Owen yn y pentref. Cyfeiriad yr ysgol yw LL74 8SN.

Mae nifer o lefydd bwyta ym Menllech gan gynnwys llawer o lefydd bwyd-sydyn. Mae hefyd sawl siop gan gynnwys Tesco, Spar co-op a siop pysgod a sglodion blasus.

Hanes lleolGolygu

 
Pen gorllewinol Traeth Benllech

Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i Gwion Goch sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.

Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng Moelfre a Benllech aeth y llong danfor Thetis ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004.

Atyniadau eraillGolygu

  • Traeth Coch - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
  • Dinas - bryngaer dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.

CludiantGolygu

Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021