Superman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfieithu cyflwyniad yr erthygl Saesneg |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Superman-Logo.jpg|bawd|Logo Superman, sy'n ymddangos ar ei frest.]]
[[
Ganwyd Superman ar y blaned Krypton, a Kal-El yw ei enw brodorol. Yn ôl hanes ei darddiad, cafodd ei ddanfon i'r Ddaear ar roced gan ei dad Jor-El, cyn i Krypton gael ei dinistrio. Glaniodd yn [[Kansas]] a chafodd ei chanfod a'i fabwysiadu gan ffermwr a'i wraig, a rodd yr enw Clark Kent iddo a'i fagu'n fachgen gweithgar a moesol. Yn ystod ei blentyndod a'i lencyndod dechreuodd ddangos ei alluoedd goruwchddynol. Pan dyfodd yn ddyn, penderfynodd i ddefnyddio'i rymoedd er budd y ddynolryw dan gochl yr hunaniaeth Superman.
Llinell 6:
Trigai Superman yn y ddinas Americanaidd ffuglennol Metropolis. Dan yr enw Clark Kent, mae'n gweithio fel newyddiadurwr ar gyfer papur newydd y ''Daily Planet''. Gan amlaf, [[Lois Lane]] yw ei gariad a'r dyn drwg [[Lex Luthor]] yw ei elyn pennaf. Aelod o dîm archarwyr y ''Justice League'' yw Superman, a gweithia'n aml gyda [[Batman]] a [[Wonder Woman]]. Fel nifer o gymeriadau eraill ym Myd DC, darlunir nifer wahanol bortreadau o Superman.
Golwg nodweddiadol sydd gan Superman: gwisg las gydag arwyddlun coch a melyn ar ei frest, sy'n dangos y llythyren "S" tu mewn i darian, a chlogyn goch. Defnyddir y darian mewn amryw o gyfryngau i symboleiddio'r cymeriad. Gwelir Superman yn eicon diwylliannol Americanaidd.<ref name="TCS11">Daniels, Les (1998). ''Superman: The Complete History'' Titan Books. ISBN 1-85286-988-7. t. 11.</ref><ref>{{cite book | last=Holt | first=Douglas B. | year=2004 | title=How Brands Become Icons: The Principles of Cultural Branding | publisher=[[Harvard Business School Press]] | location=[[Boston]], MA | page=1 | isbn=1-57851-774-5 }}</ref><ref>{{cite book |editor= Koehler, Derek J. |editor2=Harvey, Nigel. | year=2004 | title=Blackwell Handbook of Judgment and Decision Making | publisher=Blackwell| page=519 | isbn=1-4051-0746-4 }}</ref><ref>{{cite book | last=Dinerstein | first=Joel | year=2003 | title=Swinging the machine: Modernity, technology, and African American culture between the wars | publisher=University of Massachusetts Press| page=81 | isbn=1-55849-383-2 }}</ref> Ymdrinia nifer o ysgolheigion â dylanwad y cymeriad, a chaiff ei astudio a'i drafod gan ddamcaniaethwyr, sylwebwyr, a beirniaid diwylliannol. Bu statws perchenogaeth y cymeriad yn bwnc dadl: ceisiodd Siegel a Shuster ddwywaith i erlyn DC Comics am ddychwelyd yr hawliau. Addaswyd y cymeriad mewn [[masnachfraint]] eang o gyfryngau, megis ffilmiau, rhaglenni teledu, a gemau fideo. Portreadir Superman gan nifer o actorion gan gynnwys [[Kirk Alyn]], [[George Reeves]], [[Christopher Reeve]], [[Dean Cain]], [[Tom Welling]], [[Brandon Routh]], [[Henry Cavill]], a [[Tyler Hoechlin]].
== Cyfeiriadau ==
|