Cyfeiriadedd rhywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gweler hefyd
ychwanegu cyfeiriad
Llinell 6:
Yn ddiweddarach, mae ysgolheigion [[rhywoleg]], [[anthropoleg]] a [[hanes]] wedi dadlau nad yw categorïau cymdeithasol megis heterorywiol a gwrywgydiol yn hollfydol. Gall wahanol gymdeithasau ystyried agweddau eraill i fod yn bwysicach na rhyw, yn cynnwys [[Gwahaniaeth oedrannol mewn perthnasoedd rhywiol|oedrannau'r partneriaid]], y swyddogaeth rywiol a chwaraerir ganddynt (megis [[top a gwaelod mewn rhyw|top neu waelod]]), neu eu gwahanol statws cymdeithasol.
 
Gall ''[[hunaniaeth rywiol]]'' gael ei defnyddio'n gyfystyr â chyfeiriadedd rhywiol, ond mae'r ddau yn cael eu gwahaniaethu weithiau, lle bo hunaniaeth yn cyfeirio at gysyniadaeth unigolyn o'i hunan, a chyfeiriadedd yn cyfeirio at "ffantasïau, serchiadau a dyheadau"<ref>Reiter, L. (1989) ''Sexual orientation, sexual identity, and the question of choice.'' Clinical Social Work Journal, 17, 138-150.</ref> ac/neu ymddygiad. Hefyd, weithiau defnyddir ''hunaniaeth rywiol'' i ddisgrifio canfyddiad person o ''ryw'' ei hunan, yn hytrach na chyfeiriadedd rhywiol. Mae gan y termau ''hoffter rhywiol'' a ''ffafriaeth rywiol'' ystyr tebyg i gyfeiriadedd rhywiol, ond caffent eu defnyddio yn amlaf tu allan i gylchoedd gwyddonol gan bobl sy'n credu taw mater o ddewis, yn gyfan neu mewn rhan, yw cyfeiriadedd rhywiol.<ref>{{dyf gwe | url = http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/gwyliwch_allan/adnoddau_ar_gyfer_newyddiadurydd/geiriadur_defnydd_derbyniol/594.asp | teitl = Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau | cyhoeddwr = [[Stonewall (DU)|Stonewall Cymru]] | dyddiadcyrchiad = 14 Hydref | blwyddyncyrchiad = 2007 }}</ref>
 
==Gweler hefyd==