Ffenomenoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Athroniaeth yw '''ffenomenoleg''' sy'n ceisio deall ffenomenau drwy brofiad yr ymwybod, heb ddamcaniaethau achosol nac ychwaith...'
 
treiglad sangiadol
Llinell 1:
[[Athroniaeth]] yw '''ffenomenoleg''' sy'n ceisio deall [[ffenomen]]au drwy brofiad yr [[ymwybod]], heb [[achosiaeth|ddamcaniaethau achosol]] nac ychwaith rhagdybiaethauragdybiaethau a rhagsyniadau.
 
Datblygodd y mudiad ffenomenolegol ar ddechrau'r 20fed ganrif, yn bennaf dan ddylanwad [[Edmund Husserl]]. Pwysleisiodd Husserl sythwelediad yn hytrach na dadansoddiad wrth ddisgrifio'r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar [[empiriaeth]] a [[rhesymeg]] ddiddwythol. Ymhlith athronwyr eraill yr ysgol feddwl hon mae [[Roman Ingarden]], [[Max Scheler]], [[Emmanuel Levinas]], a [[Marvin Farber]]. Cafodd ffenomenoleg cryn ddylanwad ar [[dirfodaeth|ddirfodaeth]].