Ysgol Friars, Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 13eg ganrif13g using AWB
Llinell 41:
Sefydlwyd yr ysgol gan Geoffrey Glyn, doethur yn y [[cyfraith|gyfraith]] oedd wedi ei fagu ar [[Ynys Môn]], ac ar ôl addysg dda, wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith yn [[Llundain]].
[[Delwedd:Friars-speed1610.jpg|bawd|dde|200px|Darlun o'r ysgol ar fap John Speed o 1610, yr unig ddelwedd o'r ysgol wreiddiol i oroesi]]
Roedd tŷ'r [[Brodyr Duon]] wedi bodoli ym Mangor ers y [[13eg ganrif13g]], yn dilyn athrawiaeth [[Dominic]], ond yn oes [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymu’r mynachlogydd]], daeth ei gyfnod i ben ym [[1538]]. Roedd Geoffrey Glyn wedi prynu’r safle gyda’r bwriad o sefydlu ysgol ramadeg yno. Yn ei ewyllys dyddiedig [[8 Gorffennaf]] [[1557]], gadawodd yr eiddo ynghyd ag eiddo cysylltiedig er mwyn ffurfio cronfa gwaddol i gynnal yr ysgol, er mwyn sefydlu’r ysgol. Gadawodd yr eiddo hwn i'w frawd, [[William Glyn]], [[Esgob Bangor]] a [[Maurice Griffith]], Esgob Rochester, gyda'r bwraid y buasent hwythau yn sefydlu'r ysgol yn ôl ei ewyllys. Ond bu farw'r ddau ohonynt y flwyddyn dilynol, gan drosglwyddo'r dymuniad yn eu tro i William Garrard, [[William Petre]] a Simon Lowe.
 
Er bod yr ysgol wedi bod yn cyfarfod yn y ddinas cyn hyn, crëwyd yr ysgol yn swyddogol pan dderbyniodd breinlythyr gan [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth I]] ym [[1561]]. Yn ffurfiol, enw’r ysgol oedd ''The free grammar school of Geoffrey Glyn, Doctor of Laws'', ond oherwydd y cysylltiad agos ac amlwg gyda thŷ’r Brodyr, fe’i adwaenwyd yn gyffredin fel ysgol "Friars". Roedd y breinlythyr yn sefydlu Deon a Chabidwl [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] fel corfforaeth i lywodraethu’r ysgol. Ym [[1568]], mabwysiadwyd ystadudau’r ysgol, yn seiliedig ar ystatudau ysgol Bury St. Edmunds yn [[Suffolk]].
Llinell 56:
Yn y cyfnod hwn, datblygodd y cwricwlwm i gynnwys mathemateg, ysgrifennu a rhai pynciau eraill mwy cyfarwydd i ddisgyblion heddiw.
 
Bu llanw a thrai yn hanes yr ysgol yn y cyfnodau’n dilyn. Ffynnodd yn fuan wedi’r symud safle. Dan brifathrawiaeth Totton yng nghanol y [[19eg ganrif19g]], dirywiodd enw’r ysgol a cholli disgyblion nes gorfod cau ym [[1861]]. Ail-agorwyd yr ysgol ym [[1866]] dan brifathro newydd, Lewis Lloyd, ac yn y cyfnod hwn daethpwyd â chorff llywodraethol newydd, seciwlar, i ddisodli’r Deon a Chabidwl.
 
Ym [[1881]], bu epidemig o’r [[teiffoid]] ym Mangor, a gorfodwyd i’r ysgol symud i [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] i osgoi’r effaith. Roedd cyflwr gwaelod y dyffryn, yn enwedig yn agos i’r afon, yn afiach yn yr oes honno, ac fe fu i’r achlysur beri i’r ysgol ystyried symud at leoliad mwy addas.