Rwmania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
demograffeg
Llinell 226:
 
== Diwylliant ==
Er bod hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol genedlaethol, mae diwylliannau'r rhanbarthau yn adlewyrchu gwahaniaethau hanesyddol. Gwelir dylanwad Awstria ac Hwngari ym mhensaernïaeth Transylfania a'r [[Banat]]: arddulliau [[pensaernïaeth Romanésg|Romanésg]], [[pensaernïaeth Gothig|Gothig]], a [[pensaernïaeth Faróc|Baróc]]. Cafodd y [[Slafiaid]], yn bennaf yr Wcreiniaid a'r Rwsiaid, eu heffaith ar ardal Moldafia, a gwelir nodweddion o darddiad Tataraidd a phobloedd eraill [[Canolbarth Asia]] yng nghelfyddyd y werin. Trwy Walachia yn ne'r wlad daeth ddylanwad [[Môr y Canoldir]]: y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, y Bysantiaid a'r Otomaniaid. Mae'r lleiafrifoedd Hwngaraidd, Roma, ac Almaenig yn cadw at draddodiadau eu hunain o ran celfyddyd, coginiaeth, a gwisg.
 
Y Weinyddiaeth Diwylliant sy'n gyfrifol am gefnogi bywyd a sefydliadau diwylliannol ar draws Rwmania. Bwcarést yw canolfan ddiwylliannol y wlad ac yma lleolir sawl [[theatr]], tŷ [[opera]], y Gerddorfa Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig George Enescu, yr Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, Amgueddfa Byd Natur Grigore Antipa, Amgueddfa'r Werin, Amgueddfa'r Pentref, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Ganolog Prifysgol Bwcarést, a Llyfrgell Academi Rwmania. Mae gwyliau cenedlaethol Rwmania yn cynnwys [[y flwyddyn newydd]] (1 ac 2 Ionawr), y Llun wedi'r Pasg, Gŵyl Fai (mărțișor), y Diwrnod Cenedlaethol (1 Rhagfyr, sy'n dathlu uno Transylfania â gweddill y wlad), a Dydd y Nadolig.
 
Rheolir nifer o arferion a thraddodiadau gan grefydd y gymuned. Mae'r Rwmaniaid ethnig yn cynnal seremonïau yn ôl yr arfer Uniongred Ddwyreiniol yn ystod Wythnos y Grog a'r [[Pasg]]. Mae'r Hwngariaid ac Almaenwyr, sy'n perthyn i'r [[Eglwys Babyddol]] ac eglwysi [[Protestaniaeth|Protestannaidd]], yn rhoi mwy o bwyslais ar ddathlu'r [[Nadolig]]. Cedwir y wisg werin Rwmanaidd yng nghefn gwlad, ac mae gan bob sir bron ei lliw ac arddull leol. Cyfunir y grefft a'r gelfyddyd gan arferion y werin: cerfweithiau pren, gwisg addurnedig, [[brodwaith]], carpedi, a [[crochenwaith|chrochenwaith]]. Mae Rwmania yn enwog am ei wyau Pasg addurnedig a phaentio ar wydr.
 
=== Coginiaeth ===
Cafwyd dylanwad sylweddol ar goginiaeth Rwmania gan draddodiadau'r Tyrciaid a'r Groegiaid. Prif fwyd y werin ers talwm yw [[cawl]] a ballu: cawl cig, llysiau a [[nwdl]]s, cawl [[bresych]] tew, a stiw cig moch gyda [[garlleg]] a winwns. Am damaid melys bwyteir [[crwst]] plăcintă, [[baclafa]], neu deisen almon o'r enw saraille. Mae [[gwin]] o ardal Moldafia yn boblogaidd, a cheir [[cwrw|cyrfau]] lleol ar draws y wlad. Diod archwaeth gryf yw palincă, sef [[brandi]] [[eirion]] sy'n ffurf ranbarthol ar wirod sy'n boblogaidd ar draws Basn Carpathia.
 
=== Celf, cerdd a llên ===
[[Offeryn cerdd|Offerynnau cerdd]] traddodiadol y wlad yw'r cobza (sy'n debyg i [[liwt]]), y tambal (dwlsimer), y flaut ([[ffliwt]]), yr [[alpgorn]], y [[pibgod|bibgod]], a'r nai ([[pibau Pan]]). Mae'r [[cerddoriaeth werin|gerddoriaeth werin]] yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, y doina ([[galargan]]euon), [[baled]]i, a [[cerddoriaeth fugeiliol|cherddoriaeth fugeiliol]]. Daeth sawl arlunydd a llenor Rwmanaidd i sylw'r byd yn y 19eg ganrif, gan gynnwys y beirdd Mihail Eminescu a Tudor Arghezi, y llenor a chwedleuwr Ion Creanga, yr arlunydd Nicolae Grigorescu, a'r dramodydd Ion Luca Caragiale. Ymfudodd nifer o artistiaid a deallusion Rwmanaidd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y dramodydd Eugène Ionesco, y bardd a thraethodydd Andrei Codrescu, yr athronydd [[Emil Cioran]], y llenor a chyfarwyddwr ffilm Petru Popescu, y cerflunydd Constantin Brancusi, a'r hanesydd Mircea Eliade. Roedd yn rhaid i'r holl gelfyddydau cydymffurfio â [[Realaeth Sosialaidd]] yn ystod yr oes gomiwnyddol.
 
=== Chwaraeon ===
Gêm bat a phêl o'r enw oină yw mabolgamp draddodiadol Rwmania. [[Pêl-droed]] yw'r gamp fwyaf poblogaidd, a saif meysydd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt timau yn y gynghrair genedlaethol. Bu'r [[tîm pêl-droed cenedlaethol Rwmania|tîm pêl-droed cenedlaethol]] yn llwyddiannus iawn ar adegau, yn enwedig yn y 1990au dan gapteiniaeth [[Gheorghe Hagi]]. Fel arfer mae Rwmaniaid yn chwarae a hamddena mewn clybiau, a'r gweithgareddau mwyaf boblogaidd yw [[seiclo]], pêl-droed, [[pêl-law]], [[tenis]], [[rygbi]], a'r [[crefft ymladd|crefftau ymladd]]. Mae Mynyddoedd Carpathia yn denu [[dringo|dringwyr]] a heicwyr yn yr haf, a [[sgïo|sgïwyr]] ac [[eirafyrddio|eirfyrddwyr]] yn y gaeaf. Yn Aberdir y Donaw mae [[gwylio adar|gwylwyr adar]] wrth eu helfen, ac mae [[nofio|nofwyr]] yn heidio i'r traethau ar lannau'r Môr Du pan bo'r tywydd yn braf.
 
Er i Rwmania ddanfon un athletwr i [[Gemau Olympaidd yr Haf 1900]], ni chafwyd carfan sylweddol gan y wlad tan [[Gemau Olympaidd y Haf 1924|Gemau'r Haf ym 1924]]. Cystadleuodd Rwmania ym mhob un Olympiad ers hynny ac eithrio [[Gemau Olympaidd yr Haf 1932|Gemau'r Haf 1932]], [[Gemau Olympaidd yr Haf 1948|Gemau'r Haf 1948]], a [[Gemau Olympaidd y Gaeaf 1960|Gemau'r Gaeaf 1960]]. Rwmania oedd yr unig wlad yn [[y Bloc Dwyreiniol]] i fynychu [[Gemau Olympaidd yr Haf 1984|Gemau'r Haf yn Los Angeles ym 1984]] wedi i'r Undeb Sofietaidd datgan boicot yn erbyn yr Americanwyr. Y cystadleuydd enwocaf o'r wlad yw [[Nadia Comăneci]], a enillodd chwe medal [[gymnasteg]] yng [[Gemau Olympaidd yr Haf 1974|Ngemau'r Haf 1974]] ac hi oedd y cyntaf i sgorio'r deg perffaith yn y Gemau Olympaidd. Ymhlith athletwyr o fri eraill mae timau [[rhwyfo]]'r dynion a'r menywod, yr athletwraig [[Iolanda Balaș]], a'r chwaraewr tenis [[Ilie Năstase]].
 
=== Y cyfryngau ===
Ffynodd y cyfryngau torfol a lleol yn Rwmania yn sgil Chwyldro 1989, er i nifer o gyhoeddiadau derfyn o ganlyniad i gwymp economaidd yn y ddegawd olynol. Cyhoeddir y [[papur newydd|papurau newydd]] cenedlaethol ''Libertatea'' ("Rhyddid"), ''Jurnalul Naţional'' ("Cyfnodolyn Cenedlaethol"), Adevărul ("Y Gwir"), ac ''Evenimentul Zilei'' ("Digwyddiadau'r Dydd") yn ddyddiol ym Mwcarést, a ''Monitorul Oficial'' ("Sylwedydd Swyddogol") yw newyddiadur y llywodraeth. Rompres yw asiantaeth newyddion swyddogol y wlad. Lansiwyd y gwasanaeth Media Fax, cwmni preifat, ym 1991. Lleolir adrannau o asiantaethau newyddion tramor, er enghraifft y [[BBC]], yn y brifddinas. Rheolir rhwydwaith radio a theledu cenedlaethol gan y wladwriaeth, a cheir hefyd nifer o sianeli preifat, megis PRO-TV. Mae'r cyfansoddiad yn haeru i sicrháu [[rhyddid y wasg]], ond gwelir y llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar y cyfryngau ac yn erlyn newyddiadurwyr am resymau gwleidyddol.
 
== Cyfeiriadau ==