Llawysgrifau Llansteffan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Casgliad o lawysgrifau Cymreig y '''Llawysgrifau Llanstephan'''. Ffurfiwyd cnewyllyn y casgliad gan y copïwr llawysgrifau Samuel Williams (c.1660-1722)...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Casgliad o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymreig]] yyw '''Llawysgrifau Llanstephan'''. Maent yn cynnwys testunau nifer o gerddi a thestunau rhyddiaith [[Cymraeg Canol]], yn arbennig o gyfnod yr [[Oesoedd Canol Diweddar]] a'r [[Dadeni Dysg]].
 
Ffurfiwyd cnewyllyn y casgliad gan y copïwr llawysgrifau [[Samuel Williams]] (c.1660-1722), offeiriad [[Llandyfrïog]] a [[Llangynllo]] ([[Ceredigion]]) a'i fab, yr hynafiaethydd [[Moses Williams]] (1685-1742). Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llawysgrifau o gasgliadau [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]], [[Lewis Morris]], Edward Breese ac [[E. G. B. Phillimore]]. Cafodd y casgliad ei gyflwyno i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] gan Syr [[John Williams]] yn [[1909]]; fe'u gelwir yn Llawysgrifau Llanstephan am fod Syr John wedi dod â'r casgliad ynghŷd yn ei bentref genedigol [[Llansteffan]] ([[Sir Gaerfyrddin]]). (Er mai Llansteffan yw'r ffurf Gymraeg arferol ar enw'r pentref, cyfeirir at y casgliad fel Llawysgrifau Llanste''ph''an).