Glo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
B clean up
Llinell 3:
[[Craig waddod]] ddu neu frown yw '''glo'''. Mae mwy na phumdeg y cant wrth ei bwysau a mwy na saithdeg y cant wrth ei gyfaint yn [[carbon|garbon]] (hyd yn oed wrth gyfri'r dŵr sydd ynghlwm ynddo). Mae'n bwysig fel [[tanwydd ffosil]] er mwyn cynhyrchu gwres. Gellir defnyddio glo i gynhyrchu [[trydan]].
 
Cynhyrchwyd glo yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd mewn fforestydd mawr gwernydd, y [[Fforestydd Glo]]. Trowyd planhigion wedi marw yn [[mawn|fawn]] ar diroedd gwlyb ac o'i wasgu am filiynau o flynyddoedd trowyd y mawn yn lo. Planhigion pennaf y Fforestydd Glo oedd [[cnwpfwsogl]]au, [[coedredynen|coedredyn]] a [[marchrawnen|marchrawn]] - i gyd yn [[planhigyn llysieuol|blanhigion llysieuol]] a dyfent cymaint â choeden y pryd hynny ond sy'n tyfu'n llai o faint heddiw.
 
Yn anffodus, mae glo yn creu nifer o broblemau i'r amgylchfyd. O ganlyniad i losgi glo mae [[carbon deuocsid]], y prif [[nwy tŷ gwydr]], [[sylffur deuocsid]] a llwch yn cael eu gollwng i'r awyr.
Llinell 10:
:''Prif erthygl: [[Diwydiant glo Cymru]]''.
 
Yng [[Cymru|Nghymru]] ceir dau faes glo sef [[Maes Glo Gogledd Cymru]], sydd yn ran o'r un maes a [[Maes Glo Sir Gaerhirfryn]] yn [[Lloegr]], a [[Maes Glo De Cymru]], maes glo mwyaf Prydain, yn ymestyn o Sir Benfro, bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn ran o [[uwchgyfandir]] [[Pangea]] ac yn wlad gwernydd yn agos i'r [[cyhydedd]]. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o [[tywodfaen|dywodfaen]] a [[siâl]] hefyd.
 
Cloddir glo Cymru ers canrifoedd, ond daeth yn danwydd pwysig iawn adeg y [[Chwyldro Diwydiannol]]. O ganlyniad datblygodd llawer o byllau glo a ffatrïoedd yn Ne Cymru gan ddwyn newid ysgubol i fywyd a [[diwylliant]] yr ardal honno. Wedi'r [[Ail Ryfel Byd]] roedd tua trideg y cant o weithwyr Cymru yn gweithio yn y [[diwydiant glo]] neu [[Diwydiant dur|dur]], ond erbyn heddiw mae llawer o'r [[Pwll glo|pyllau glo]] a'r ffatrïoedd wedi cau. Yn sgil y crebachu ar ddiwydiant trwm cafwyd [[streic]]iau a phroblemau cymdeithasol yn Ne Cymru yn y [[1970au]] a [[1980au]].
 
Mae [[Blaenafon]] wedi ei restru fel [[Safleoedd Treftadaeth y Byd|Safle Treftadaeth y Byd]] gan yr [[UNESCO]] achos ei fod yn dref diwydiant glo a haearn pwysig. Yn y dref, mae'n bosib gweld pwll glo yn [[Pwll Mawr|Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Glofa Pwll Mawr]].