Wiliam Mountbatten-Windsor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B trefn
B clean up
Llinell 7:
==Chwaraeon==
[[Delwedd:Prince William at a Polo match 2007.jpg|200px|bawd|Y tywysog yn chwarae polo yn Sandringham (2007)]]
Mae'r tywysog yn chwarae [[polo]]'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn [[Sandringham]]. Mae'n Arlywydd [[Cymdeithas Pêl-droed Lloegr]] ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr|dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr|thîm rygbi cenedlaethol Lloegr]]. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol [[Undeb Rygbi Cymru]] o Chwefror 2007 a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.
 
Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng [[Cwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007|Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007]]. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion [[Undeb Rygbi Cymru]] i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar [[Ray Gravell]]. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y [[Tywysog Gwilym o Gymru|Tywysog William]], Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi [[Lloegr]], yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7070000/newsid_7078800/7078887.stm Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu] ar wefan y [[BBC]]</ref> Lansiwyd [[deiseb]] ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan [[Ray Gravell]]" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.<ref>[http://www.thepetitionsite.com/1/rename-the-prince-william-cup-the-ray-gravell-cup Rename the Prince William Cup the Ray Gravell Cup] ar wefan ''The Petition Site''</ref>
Llinell 13:
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:William}}
[[Categori:Genedigaethau 1982]]