Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.219.231.101 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
B clean up
Llinell 3:
[[Delwedd:Deffrown Dewwfrown 2015.webmsd 05.webm|de|bawd|300px|Deffrown Deffrown]]
[[Delwedd:Gwrandawed Bob Enaid 2.webmhd.webm|de|bawd|300px|Gwrandawed Bob Enaid]]
[[Delwedd:Awn i Fethlem 2015.webmsd 06.webm|de|bawd|300px|Awn i Fethlem ]]
[[Delwedd:Blant Adda Mbaratowch.webmsd 04.webm|de|bawd|300px|Blant Adda 'Mbaratowch]]
[[Delwedd:Ar Fore Dydd Nadolig 2015.webmsd 07.webm|de|bawd|300px|Ar Fore Dydd Nadolig]]
[[Delwedd:Pa Beth yw'r Golau.webmsd 01.webm|de|bawd|300px|Pa Beth yw'r Golau]]
Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r '''plygain'''. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu [[carol plygain|carolau'r plygain]]. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.<ref name="Gwefan Amgueddfa Cymru">[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y [[16g]] gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
 
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair [[Lladin]] ''pullicantiō''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain</ref>, sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y [[Llydaweg]] fel ''pellgent''. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am [[Sion Corn]] ydy ''Tad-kozh ar pellgent'' ("Tad-cu y plygain").
Llinell 15:
==Canhwyllau==
 
Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn [[Dolgellau|Nolgellau]], er enghraifft, gwisgwyd y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn [[Llanfyllin]], goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu lleoli fodfeddi ar wahân. Ym [[Maentwrog]], [[Sir Feirionnydd]], yr oedd canhwyllau hefyd ''"wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad."'' <ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/277/ name="Gwefan Amgueddfa Cymru;] adalwyd 30 Tachwedd 2015<"/ref>
 
Yn [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ger [[Rhuthun]] yn 1774, gwyddys i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn [[Dinbych-y-pysgod|Ninbych-y-pysgod]], [[Talacharn]] a [[Llanfyllin]]. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chwythu cyrn.
Llinell 37:
===Caneuon y plygain===
{{prif|Carol plygain}}
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli erioed. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion. Yn aml roedd yr alwad yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin boblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.
 
;Enghraifft; ''Daeth Nadolig'' (ar hen alaw werin ''Deio Bach'')
Llinell 49:
:Ac mae miwsig pob aderyn
:Wedi darfod yn y glyn.
 
 
:Daeth Nadolig fel arferol,
Llinell 59 ⟶ 58:
:Cofio’r engyl yn cyhoeddi
:Geni Duw mewn gwisg o gnawd.
 
 
:Daeth Nadolig fel arferol
Llinell 69 ⟶ 67:
:Ar yr hwn sydd wedi’i eni
:Draw ym mhreseb Bethlehem.
 
 
:Gorfoleddwn a moliannwn,
Llinell 356 ⟶ 353:
*''Hen Garolau'', [[Geraint Vaughan-Jones]] (Gol.), Y Lolfa, 1987
*''Mwy o Garolau Plygain'', Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992
 
 
==Dolenni allanol==