Cyngor Celfyddydau Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎Hanes: clean up
Llinell 2:
 
==Hanes==
Sefydlwyd '''Cyngor Celfyddydau Cymru''' ([[Saesneg]]: ''Welsh Arts Council'') yn [[1946]] dan Siarter Frenhinol,<ref>{{dyf gwe| url=http://www.archiveswales.org.uk/anw/get_collection.php?inst_id=1&coll_id=78016&expand=&L=1| teitl=Llyfrgell Genedlaethol Cymru > Welsh Arts Council Archives| publisher=Archifau Cymru| dyddiadcyrchiad=15 Mehefin 2011}}</ref> Yn 1994 unwyd y Cyngor â thair Cymdeithas Celfyddydol Rhanbarthol yng Nghymru a newidwyd fersiwn [[Saesneg]] yr enw i ''Arts Council of Wales''.
 
Daeth yn atebol i'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ar [[1 Gorffennaf]] [[1999]] pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb oddi ar [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]]. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i CCC i hyrwyddo'r celfyddydau. Mae CCC hefyd yn dosbarthu arian y [[Loteri Genedlaethol (UK)|Loteri Genedlaethol]], i hybu y celfyddydau yng Nghymru, a ddosrennir gan yr [[Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon]] [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|San Steffan]].
 
Fel elusen gofrestredig mae gan y Cyngor fwrdd ymddiriedolwyr sy'n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Ar wahan i'r cadeirydd mae aelodau'r cyngor yn gwasanaethu yn ddi-dâl, ac fe'i penodir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae gan CCC swyddfeydd ym [[Bae Colwyn|Mae Colwyn]], [[Caerfyrddin]] a dinas [[Caerdydd]].
 
===Prif Weithredwyr===