Rhyfel Caerdroea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: |ewin bawd| → |bawd| (2) using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Troas.png|bawd|250px|Caerdoea a'r cyffiniau (Troas)]]
 
Rhyfel a ddaeth yn rhan o fytholeg [[Groeg yr Henfyd]] oedd '''Rhyfel Caerdroea'''. Dywedir i fyddin o Roegwyr dan arweiniad [[Agamemnon]] ymosod ar ddinas [[Caerdroea]], yng ngogledd-orllewin [[Anatolia]]. Wedi deng mlynedd o ymladd, llwyddodd y Groegwyr i gipio'r ddinas trwy ystyw [[Ceffyl Pren Caerdroea]]. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer yr hanes yw'r ''[[Iliad]]'' gan [[Homeros]], ond dim ond hanes un rhan o'r rhyfel a geir yma.
 
Nid yw haneswyr yn cytuno a oes sail hanesyddol i'r straeon am Ryfel Caerdroea. Os oedd yn ddigwyddiad hanesyddol, credir y buasai wedi digwydd oddeutu 1180 CC.
 
Dechreua'r stori gyda phriodas [[Peleus]] a [[Thetis]]. Daw'r duwiau a'r duwiesau i gyd i'r wledd briodas, ond ni wahoddwyd [[Eris]], duwies anghydfod. Fel dial, mae Eris yn cymeryd afal aur, yn ysgrifennu "i'r harddaf" (τηι καλλιστηι) arno, a'i daflu i blith y gwahoddedigion. Canlyniad hyn yw ffrae rhwng y duwiesau [[Hera]], [[Athena]] ac [[Aphrodite]] pwy ddylai gael yr afal. Gofynnir i [[Paris (mytholeg)|Paris]], tywysog o Gaerdroea, farnu pa un o'r tair yw'r harddaf. Mae pob un o'r tair duwies yn addo gwobr i Paris os dyfarna'r afal iddi hi. Cynnig Aphrodite yw y caiff Paris y wraig brydferthaf yn y byd, [[Elen o Gaerdroea|Elen]] (''Helen''), gwraig [[Menelaos]] brenin [[Sparta]], yn gariad. Dyfarna Paris yr afal i Aphrodite.
Llinell 11:
Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, [[Priam]], yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd [[Agamemnon]], brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith [[Achilles]] a'i gyfaill [[Patroclus]], yr hynafgwr [[Nestor]], [[Aiax (mytholeg)|Aiax]], [[Odysseus]], [[Calchas]] a [[Diomedes]], ac wedi ymgynull ar ynys [[Aulis]], maent yn hwylio am Gaerdroea.
 
Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies [[Thetis]]. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn [[afon Styx]] fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Lleddir Patroclus, cyfaill Achilles, gan [[Hector]], mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector ei hun gan Achilles, yma saethir Achilles ei hun yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.
 
Wedi deng mlynedd o ymladd, mae Odysseus yn meddwl am gynllun i gipio'r ddinas. Mae'r Groegiaid yn adeiladu ceffyl pren anferth, ac yn cuddio milwyr o'i fewn. Wedyn mae'r Groegiaid i bob golwg yn ymadael. Llusgir y ceffyl i mewn i'r ddinas gan drigolion Caerdroea, sy'n dathlu eu buddugoliaeth, ond yn y nos mae'r Groegiaid yn dod allan o'r ceffyl a syrth y ddinas.
 
Lladdwyd Priam a nifer o'i deulu, a gwnaed eraill yn gaethweision. Arbedwyd [[Anchises]], a chariwyd ef allan o'r ddinas ar gefn ei fab, [[Aeneas]].