Dorsal Tiwnisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Adam y dudalen Dorsal Tunisia i Dorsal Tiwnisia
B →‎top: clean up
Llinell 1:
'''Dorsal Tiwnisia''', neu'r '''Dorsal''' ([[Ffrangeg]] ''dorsale'', "asgwrn cefn"), yw prif gadwyn mynydd [[Tiwnisia]] yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]. Mae'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir [[mynyddoedd yr Atlas]], sy'n cychwyn ym [[Moroco]] yn yr [[Atlas Uchel]] ac yn rhedeg drwy [[Algeria]].
 
[[Image:WSIS - Landschaft auf dem Weg von Hammamet nach Tunis (2005-11-18).JPG|250px|bawd|Rhan o'r Dorsal o'r draffordd [[Tiwnis]]-[[Hammamet]]]]
Llinell 6:
Adwaenir gwastadeddau uchel ffrwythlon y Dorsal fel y [[Tell (Tiwnisia)|Tell]]. I'r gogledd o'r ucheldir ceir dyffryn [[afon Medjerda]] sy'n gorwedd rhwng y Dorsal (a chymryd Mynyddoedd [[Tebersouk]] fel estyniad gogleddol o'r Dorsal) a mynyddoedd coediog y [[Kroumirie]], sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger [[Tabarka]], i gyfeiriad [[Bizerte]], ger [[Tiwnis]], lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.
 
I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r [[Sahel (Tiwnisia)|Sahel]], sy'n enwog am ei [[Olewydden|holewydd]].
 
Ceir sawl safle archaeolegol o gyfnod y [[Rhufeiniaid]] yn y Dorsal, e.e. [[Makthar]], [[Haidra]] a [[Sufetula]] (ger [[Sbeitla]]). Y prif drefi yn yr ardal neu ar ei gyffiniau yw [[El Kef]], [[Kasserine]], [[Sbeitla]] a [[Kalaat Khasba]].