Dinllaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Un o dri chwmwd cantref Llŷn yn yr Oesoedd Canol oedd '''Dinllaen'''. Gorweddai ar arfordir gogleddol y cantref, yng nghanol penrhyn Llŷn. Ystyr 'Dinllaen' yw...
 
plwyfi
Llinell 5:
Lleolid llys a chanolfan weinyddol y cwmwd yn [[Nefyn]], prif ganolfan weinyddol y cantref. Yma y tyfodd [[bwrdeistref]] fechan Gymreig a ddaeth yn ddiweddarach yn fwrdeistref dan y drefn Seisnig ar ôl 1284. Ar wahân i Nefyn, "trefi" canoloesol bychan a geid yn y cwmwd. Erys enwau rhai ohonynt ar bentrefi'r ardal heddiw, e.e. [[Morfa Nefyn]] a [[Llithfaen]].
 
Gorweddai Dinllaen ar lwybr y [[pererindod|bererindod]] i [[Ynys Enlli]], ac mae ei brif ganolfannau crefyddol i'w cael ar y llwybr hwnnw neu'n agos iddo, yn enwedig [[Pistyll]], [[Ceidio]], [[Tudweiliog]] a [[Llandudwen]].
 
==Plwyfi==
*[[Abererch]]
*[[Boduan]]
*[[Carnguwch]]
*[[Ceidio]]
*[[Edern]]
*[[Llandudwen]]
*[[Llannor]]
*[[Nefyn]]
*[[Pistyll]]
*[[Tudweiliog]]
 
==Ffynhonnell==