Dawns: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
→‎top: Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Salsa dancing.jpg|thumbbawd|rightdde|200px|Dawns Salsa]]
Mae '''dawns''' neu '''dawnsio''' (o'r [[Ffrangeg]] ''danser'') yn gelfyddyd, ymarfer corff neu ddifyrwaith sydd, yn ei hanfod, yn gyfres o gamau ac ysgogiadau corfforol rhythmig gan unigolyn, parneriaid neu grŵp o bobl, fel rheol i gyfeiliant [[cerddoriaeth]]. Mae'n cymryd sawl ffurf ac mae ei gwreiddiau yn hynafol iawn gyda pherthynas agos â hanes cerddoriaeth a defodau crefyddol; gwelir olion o hynny yn y [[dawns werin|dawnsiau gwerin]] traddodiadol.
 
Mae'r diffiniad o beth yn union yw dawns yn dibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol, artistig a moesol. Mae'n amrywio o symudiadau gweithredol (megis [[dawnsio gwerin]]) i dechnegau meistrolgar fel ''[[ballet]]''. Gellir cymryd rhan mewn dawns neu ei berfformio ar gyfer cynulleidfa. Gall fod yn seremonïol, cystadleuol neu'n rywiol hefyd. Gall dawns ymgorffori neu fynegi syniadau, emosiynau neu adrodd stori.