Rygbi'r undeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
→‎top: Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 1:
[[Image:Rugby tackle cropped.jpg|rightdde|220px]]
Un or chwaraeon cyswllt llawn ydy '''rygbi'r undeb'''. Math o bêl-droed neu [[cnapan|gnapan]] ydyw a ddechreuodd yn [[Lloegr]] ar ddechrau'r [[19eg ganrif]] <ref>[http://www.rugbyfootballhistory.com/originsofrugby.htm#2 Origins of Rugby - Codification] -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."</ref> Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.
 
Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael [[Cymdeithas Pêl-droed Lloegr]] ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru yw [[Undeb Rygbi Cymru]].
 
Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.
 
Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban|Yr Alban]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal|Yr Eidal]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr|Lloegr]]) a'r Pencampwriaeth Rygbi ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin|Yr Ariannin]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] a [[Crysau Duon|Seland Newydd]]) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn [[Ffrainc]], y Currie Cup yn [[De Affrica|Ne Affrica]], a'r ITM Cup yn [[Seland Newydd]]. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y [[RaboDirect Pro 12]], y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r [[Cwpan Heineken]], sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.