Andromeda (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ffynonellau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Museo Nazionale Napoli Perseus And Andromeda.jpg|250px|bawd|[[Perseus (mytholeg)|Perseus]] yn achub '''Andromeda''' (darlun ar fur o [[Pompeii]], yn Amgueddfa Archaeolegol Napoli)]]
[[Duwies]] ym [[mytholeg Roeg]] yw '''Andromeda''', yn ferch i [[Cepheus]] fab [[Belus]], 'brenin' [[Ethiopia]], gan y dduwies [[Cassiopeia]].
 
Roedd Cassiopeia wedi bostio ei bod yn degach na'r [[Nereidau]], 'merched' [[Poseidon]], [[duw]]'r môr. I ddial y sarhad anfonodd Poseidon dilyw ac anghenfil o'r môr i wlad Cassiopeia a Cepheus. Proffwydolodd [[Teml Jupiter Ammon|oracl Jupiter Ammon]], yn yr [[Yr Hen Aifft|Aifft]] fod modd cael gwared â'r gorthrwm hynny trwy offrymu Andromeda i'r anghenfil. Yn erbyn ei ewyllys rhwymodd Cepheus ei ferch i graig ar lan y môr. Yn ffodus daeth yr arwr [[Perseus (mytholeg)|Perseus]] i'r adwy. Mae'n lladd yr anghenfil, a bortreadir gan amlaf fel math o sarff ddu, ac yn achub Andromeda.
 
Ar ôl priodi Perseus mae Andromeda yn ei ddilyn i [[Argos (dinas)|Argos]] ac yn sefydlu llinach brenhinol y [[Perseidiaid]] yn y deyrnas enwog honno. Ar ôl ei marwolaeth cafodd ei gosod ymhlith y [[cytser]]au gan y dduwies [[Athena]].