Coffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhys (sgwrs | cyfraniadau) →Gwneud coffi da: ychydig rhagor o wybodaeth |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 88:
[[Delwedd:Ibrik.jpg|de|bawd|250px|Ibric]]
Yn ôl pob tebyg, hwn ydy'r dull mwya hynafol o wneud coffi. Mae Ibric (o'r [[Arabeg]] ''ibrik'' = pot coffi) yn debyg i sospan fach neu phiser prês gyda gwaelod wastad a dolen hir.
Mae'n draddodiadol i yfed coffi Twrcaidd mewn powlen fach yn hytrach na chwpan. Er mwyn gwneud coffi Twrcaidd mae rhaid malu'r coffi'n fân fel blawd. Rhoddir dwy lwyaid o siwgwr yn ngwaelod yr ibric a'i lenwi â dŵr oer hyd at waelod y gwddf. Rhoddir dwy lwyaid o goffi i nofio ar ben y dŵr. Ni throi'r coffi, gadewir iddo nofio. Rhoddir yr ibric i boethi ar y tywod poeth ger môr y canoldir. Os nad yw hwn yn gyfleus, gosodir ef ar y
=== Melior / ''Cafetière'' / Gwasg Ffrengig ===
Llinell 94:
Gair [[Ffrangeg]] am bot coffi yw ''cafetière''.<br>Cafodd ei ddyfeisio gan Saesnes o'r enw [[Elizabeth Dakin]] yn [[1841]], ond fe ymddangosodd gyntaf yn [[Ffrainc]] yn 1950 dan yr enw "Melior". Mae'r egwyddor yn debyg i goffi Twrcaidd ond bod hidlydd fel piston yn gwasgu'r gwehillion i waelod y pot. Fe fyddwch chi'n rhoi ffa coffi wedi malu yng ngwaelod y pot ac arllwys dŵr poeth arno, disgwyl rhyw dri neu bedwar munud, ei droi ychydyg gyda llwy, wedyn gwthio'r piston yn araf i'r gwaelod.
=== Bialetti / Napolitane / Espresso pen
[[Delwedd:MokaCoffeePot.svg|bawd|150px|float|dde|Trawslun Bialetti]]''(Gall '''pot [[Coffi#Ffeithiau eraill|Moca]]''', olygu [[Coffi#Percoladur|percoladur]] hefyd.)''
[[Delwedd:Coffee pot moka.jpg|bawd|75px|float|chwith|Bialetti]]
Dyfeisiwyd hwn gan Ffrancwr ond yn [[yr Eidal]] y daeth yn boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti"; maent yn boblogaidd yn [[Sbaen]] hefyd.
Mae'r potyn mewn dwy ran sy'n sgriwio i'w gilydd. Tywelltir dŵr yn y rhan isod (A) a gosodir twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoddir y coffi yn y twmffat a'i wasgu gyda'r llwy. Sgriwir y potyn (C) yn dynn ar ei ben a'i osod ar y
=== Cona ===
|