Iddew Crwydrad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B ffurf Gymraeg
B →‎top: clean up, replaced: 16eg ganrif → 16g, 15fed ganrif → 15g (2), 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 2:
Cymeriad o [[mytholeg Gristnogol|fytholeg Gristnogol]] a [[llên gwerin]] Ewropeaidd [[yr Oesoedd Canol]] yw'r '''Iddew Crwydrad'''.<ref>Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1637 [wandering Jew].</ref> Mae'n [[Iddew]] a gafodd ei [[melltith|felltithio]] i grwydro'r byd hyd [[yr Ail Ddyfodiad]], yn gosb am wawdio [[Iesu]] ar ei ffordd i'r groes. Yn ôl y stori draddodiadol, roedd yr Iddew yn [[crydd|grydd]] o'r enw Ahasferus<ref>''Geiriadur yr Academi'', [Ahasuerus].</ref> a siasiodd Iesu i ffwrdd o'i ddrws.<ref name="Brewer's">Rockwood, Camilla (gol.). ''[[Brewer's Dictionary of Phrase and Fable]]'', 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1400.</ref>
 
Mewn fersiwn hŷn o'r chwedl a geir yn y ''Chronicle of St Alban's Abbey'' (1228), Cartaphilus porthor llys [[Pontiws Peilat]] oedd yr Iddew a fwrodd Iesu wrth iddo fynd heibio. Yn [[yr Almaen]] fe'i elwir yn John Buttadaeus, a welwyd yn crwydro [[Antwerp]] yn y 13eg ganrif13g, y 15fed ganrif15g, a'r 16eg ganrif16g, ac yn [[Salt Lake City]] ym 1868. Yn ôl y chwedl [[Ffrainc|Ffrengig]], Isaac Laquedom neu Lakedion yw ei enw.<ref name="Brewer's"/>
 
Aeddfedodd chwedl yr Iddew Crwydrad yng nghyfnod o alltudiaeth i'r Iddewon yn Ewrop, er enghraifft gwaharddiad y [[Seffardïaid]] o [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]] ar ddiwedd y 15fed ganrif15g. Mewn fersiynau diweddarach o'r stori, datblygodd yr Iddew yn gymeriad mwy trasig ac yn rhagredegydd trychineb.<ref>Johnson, Paul. ''A History of the Jews'' (Efrog Newydd, Harper Perennial, 1988), t. 233.</ref> Daeth y cymeriad mytholegol hwn yn symbol o anfarwoldeb ac ymfudo parhaol cenedl yr Iddewon.<ref name=JE>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.jewishencyclopedia.com/articles/14773-wandering-jew |gwaith=1906 [[Jewish Encyclopedia]] |teitl=WANDERING JEW |dyddiadcyrchiad=3 Tachwedd 2012 }}</ref> Mae'r [[motiff]] hwn o fod dynol a [[anfarwoldeb|anfarwolir]] (ond yn dyheu am farwolaeth) yn gyffredin i nifer o chwedlau, er enghraifft myth y Brenin [[Herla]].<ref>Jones, Alison. ''Larousse Dictionary of World Folklore'' (Caeredin, Larousse, 1995), t. 449 [Wandering Jew].</ref>
 
== Gweler hefyd ==