Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
 
Yn 1859 y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er 1850 roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol Calfinaidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i weinidogaeth y pregethwyr mawrmegismawr megis Christmas Evans (1838), John Elias (1841) a Henry Rees (1869). Wedi'r i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gywirdeb Beiblaidd ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol.
 
Cyn diwygiad 1904-1905 daeth dau feddyliwr pwysig i'r sffêr gyhoeddus, ill dau yn her i Gristnogaeth yn eu ffordd eu hunain. Yr athronydd gwleidyddol Karl Marx a gyhoeddodd y ''Maniffesto Gomiwnyddol'' (1848) a ''Das Kapital'' (1867) a'r gwyddonydd [[Charles Darwin]] a gyhoeddodd ''Origin of Species'' (1859). Yng ngwyneb caledu fe drodd llawer o'r dosbarth gweithiol i ffwrdd o'r athrawiaeth Gristnogol hanesyddol a thoi ei golwg tuag at wleidyddiaeth. Yn yr un modd fe ddilynodd llawer o'r arweinwyr Cristnogol hwynt ac fe drodd efengyl Gras yn ddim byd mwy nag Efengyl Gymdeithasol. Ac er gwaetha'r ymrafael rhwng syniadaeth Darwin ac athrawiaeth y Beibl daeth arweinwyr Cristnogol Cymru i dderbyn gwaith a theorïau Darwin yn ddi-gwestiwn.