Titanic (ffilm 1997): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
rhif_imdb = 012033 |
}}
Ffilm [[rhamant|ramantaidd]] [[Unol Daleithiau|Americanaidd]] gan y [[cyfarwyddwr ffilm|cyfarwyddwr]] [[James Cameron]] yw '''''Titanic''''' ([[1997 mewn ffilm|1997]]). Mae'n serennu [[Leonardo DiCaprio]] fel Jack Dawson a [[Kate Winslet]] fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori [[rhamant|ramantaidd]] sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan [[Gloria Stuart]], sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.
 
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym [[1995 mewn ffilm|1995]], pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn [[Playas de Rosarito]], Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth [[Paramount Pictures]] a [[20th Century Fox]]. Aeth y ddau gwmni bron yn fethdal yn ystod y broses cynhyrchu.