Llyn Padarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif → 18g using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Llyn yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Llyn Padarn'''. Saif yn [[Eryri]], gyda llyn arall, [[Llyn Peris]] fymryn i'r de-ddwyrain. Mae'n 280 acer o arwynebedd, tua dwy filltir o hyd a 94 troedfedd yn y man dyfnaf. Saif tref [[Llanberis]] ar y lan ddeheuol a phentref [[Brynrefail]] lle mae [[Afon Rhythallt]] yn llifo allan o'r llyn. Wedi iddi lifo dan Bont Rhythallt yn [[Llanrug]], mae'r afon yma yn newid ei henw i [[Afon Seiont]] ac yn cyrraedd y môr yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]].
Daw'r enw o sant [[Padarn]], a gelwir y tir rhwng y llyn yma a Llyn Peris yn [[Dolbadarn]]. Yma mae [[Castell Dolbadarn]] ar godiad tir rhwng y llynnoedd. Ar lan gogleddol y llyn mae [[Parc Gwledig Padarn]], ac mae [[Rheilffordd Padarn]]
Yn y [[18g]] roedd [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] yn [[Nant Peris]], a byddai'r copr yn cael eu gario mewn cychod ar hyd Llyn Padarn. Y mwyaf adnabyddus o'r bobl oedd wrth y gwaith yma oedd [[Marged uch Ifan]], a ddaeth yn rhan o draddodiad gwerin. O blith pysgod y llyn, y mwyaf nodedig yw'r [[Torgoch]].
|