Gwent Uwch Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cantref yn ne-ddwyrain Cymru'r Oesoedd Canol oedd '''Gwent Uwch Coed''' (hefyd weithiau '''Gwent Uwch-coed'''). Gyda chantref Gwent Is Coed roedd yn un o ddau gantref ar ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cantref]] yn ne-ddwyrain [[Cymru'r Oesoedd Canol]] oedd '''Gwent Uwch Coed''' (hefyd weithiau '''Gwent Uwch-coed'''). Gyda chantref [[Gwent Is Coed]] roedd yn un o ddau gantref ar diriogaeth hen deyrnas [[Teyrnas Gwent|Gwent]].
 
Roedd coedwig fawr Coed Gwent yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'u gelwid yn Went Uwch Coed a Gwent Is Coed. Gwent Uwch Coed oedd y mwyaf o'r ddau gantref o ran ei arwynebedd ond y lleiaf ei boblogaeth. Gorweddai i'r gogledd o Goed Gwent. Ffiniai â chantref Gwent Is Coed i'r de, [[Gwynllwg]] i'r gorllewin, [[Brycheiniog]] ac [[Ewias|Ewias Lacy]] i'r gogledd, a hen deyrnas a chantref [[Ergyng]] i'r dwyrain (rhan o [[Swydd Henffordd]] yn ddiweddarach]]).
 
Nodweddid Gwent Uwch Coed gan nifer o [[llan|lannau]] ac [[eglwys]]i bychain. Arosodd yr ardal yn gadarnle i'r [[Cymry]] lleol ar ôl i Went gael ei goresgyn gan y [[Normaniaid]] erbyn y [[1070au]]. Er ei bod dan reolaeth y Normaniaid ar ôl hynny roedd y gymdeithas Gymreig wedi goroesi ac roedd gwŷr Gwent Is Coed yn barod iawn i gefnogi'r tywysogion Cymreig yn erbyn y Normaniaid a'r [[Saeson]].