Gwent Is Coed
Cantref yn ne-ddwyrain Cymru'r Oesoedd Canol oedd Gwent Is Coed (hefyd weithiau Gwent Iscoed). Gyda chantref Gwent Uwch Coed roedd yn un o ddau gantref ar diriogaeth hen deyrnas Gwent.
Data cyffredinol |
---|
Roedd coedwig fawr Coed Gwent yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'i gelwid yn Went Is Coed a Gwent Uwch Coed. Gwent Is Coed oedd y lleiaf o'r ddau gantref o ran ei faint ond y pwysicaf o ran ei boblogaeth a'i ganolfannu. Gorwedd ar arfordir y de-ddwyrain ar lan Môr Hafren, ar y ffin â Lloegr gydag Afon Wysg yn dynodi'r ffin. I'r gorllewin ffiniai â chantref Gwynllŵg ac i'r gogledd â Gwent Uwch Coed.
Ar sawl cyfrif, Gwent Is Coed oedd yr ardal bwysicaf yn y Gymru Rufeinig. Yma y codwyd dinas Rufeinig Caerleon-ar-Wysg neu Isca (ar safle Caerllion heddiw), a ddaeth yn bencadlys yr Ail Leng Rufeinig (Legio II Augusta). Gerllaw roedd Caerwent (Venta Silurum), prifddinas y Silures.
Roedd y tir arfordirol yn arbennig o ffrwythlon. Sefydlodd breninoedd Gwent ei brif lys yn Llanfair Is Coed a daeth Caerwent yn ganolfan eglwysig.
Caerleon a BrynbugaGolygu
Fel gweddill Gwent, cafodd y cantref ei oresgyn gan y Normaniaid erbyn 1070. Sefydlwyd 'Arglwyddiaeth Caerleon a Brynbuga' neu Lower Gwent yno ar ddiwedd yr 11g. Parhaodd hyd greu'r Sir Fynwy newydd yn 1542.