Le Morte d'Arthur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: right|220px|thumb|Rhan o "Cwsg olaf Arthur" gan [[Edward Burne-Jones]] '''''Le Morte d'Arthur''''', neu '''''Le Morte Darthu... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:40, 7 Mawrth 2008
Le Morte d'Arthur, neu Le Morte Darthur yn yr argraffiad cyntaf ("Marwolaeth Arthur") yw'r pwysicaf o'r fersiynau o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig. Mae'n gasgliad o ddeunydd Ffrengig a Seisnig am Arthur gan Syr Thomas Malory, wedi eu hail-adrodd yn ôl syniadau Malory ei hun, ac yn cynnwys rhywfaint o waith gwreiddiol Malory ei hun yn stori Gareth.
Argraffwyd y llyfr am y tro cyntaf yn 1485 gan William Caxton, a daeth yn eithriadol o boblogaidd. Mae'n cynnwys wyth stori wahanol:
- "Fro the Maryage of Kynge Uther unto Kyng Arthure that Regned Aftir Hym and Ded Many Batayles"
- "The Noble Tale Betwyxt Kynge Arthure and Lucius the Emperor of Rome"
- "The Noble Tale of Sir Launcelot Du Lake"
- "The Tale of Sir Gareth of Orkney"
- "The Fyrst and the Secunde Boke of Syr Trystrams de Lyones" (hanes Trystan ac Esyllt)
- “The Noble Tale of the Sankgreal” (yr ymchwil am y Greal Santaidd)
- "Sir Launcelot and Queen Gwenyvere"
- "The Dethe of Arthur"