Trystan ac Esyllt

Chwedl o'r Canol Oesoedd a gysylltir â'r Brenin Arthur yw Trystan ac Esyllt.

Trystan ac Esyllt, gan Edmund Blair Leighton.

Crynodeb o'r Chwedl

golygu

Ceir gwahanol fersiynau o'r chwedl sy'n amrywio mewn manylion penodol, ond o ran braslun cyffredinol, ym mhob un ohonynt mae Trystan, sydd naill ai'n nai i Arthur neu fel arall yn un o'i farchogion, wedi'i anfon i ddanfon Esyllt, merch Hywel fab Emyr Llydaw mewn rhai fersiynau, o Iwerddon i Gernyw, lle mae hi i briodi'r brenin March. Yn ystod y fordaith, mae Trystan ac Esyllt yn yfed diod hud yr oedd mam Esyllt wedi ei baratoi ar gyfer y briodas, a syrthio mewn cariad â'i gilydd.

Wedi i'r brenin March ddarganfod hyn, mae'r cariadon yn ffoi i Fforest Broseliawnd yn Llydaw. Yn ddiweddarach, clwyfir Trystan yn angheuol mewn brwydr (yn erbyn March mewn rhai fersiynau). Mae'n gyrru am Esyllt i'w iachau, ond erbyn iddi gyrraedd mae ef eisoes wedi marw.

Mewn fersiynau gwahanol mae llawer o nodweddion penodol yn amrywio. Mewn rhai mae'r pâr eisoes mewn cariad cyn iddynt yfed y ddiod. Mewn eraill effeithiau'r ddiod hud yn amrywio; mewn rhai fersiynau maent yn peidio ar ôl cyfnod, ac wedyn cariad y ddau naill ai'n peidio neu'n parhau. Mewn rhai fersiynau mae Trystan yn priodi Esyllt arall, Esyllt Llydaw, sy'n tendio arno wrth iddo wella o'i glwyfau; yn y fersiynau hyn yn aml mae neges wedi'i anfon at Esyllt yn hwylio i weld Trystan gan addo y bydd hwyliau'r llong yn wyn os fydd hi arni, ac yn ddu fel arall. Yn ei chenfigen mae Esyllt Llydaw yn dweud celwydd wrth Trystan ynghylch lliw'r hwyliau, sydd wedyn yn marw o dorcalon.

Fersiynau o'r Chwedl

golygu

Canoloesoedd

golygu

Cyfansoddodd y bardd Normanaidd Béroul, a flodeuai yn y 12g, y gerdd Tristan, fersiwn Eingl-Normaneg o chwedl Trystan ac Esyllt sydd wedi goroesi fel testun anghyflawn a darniog o tua 3000 llinell; dyma'r testun cynharaf o'r fersiwn "werinol" o'r chwedl yn llenyddiaeth y Ffrancod a'r Eingl-Normaniaid. Cynrychiolir y fersiwn "llysol" gan y drylliau o gerdd Thomas o Brydain). Ysgrifennodd yr Almaenwr Eilhart von Oberge ymdriniaeth o'r testun yn Almaeneg, ac mae nifer o ddigwyddiadau o fersiwn Béroul yn ail-ymddangos yn y testun diweddarach a elwir yn Chwedl rhyddiaith Trystan'.

Ceir llawer o gyfeiriadau at y chwedl yn Gymraeg, er enghraifft yn y Trioedd ac yng ngweithiau'r Gogynfeirdd, a cheir cyfeiriad at Bledri ap Cydifor (fl. hanner cyntaf y 12g) fel awdur un fersiwn cynnar o'r hanes, ond nid oes fersiwn Gymraeg o'r chwedl ei hun wedi goroesi o'r canoloesoedd.

Fersiynau Diweddarach

golygu

Daeth y chwedl yn boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ganlyniad i'r diddordeb newydd yn y canoloesoedd, y traddodiad arthuraidd Rhamantaidd; cafwyd nifer o fersiynau yn newydd yn y cyfnod yn seiliedig ar y fersiynau canoloesol ac/neu'n dwyn deunydd newydd. Un o'r mwyaf nodedig oedd Tristan und Isolde, opera gan Richard Wagner; cafwyd fersiynau Saesneg newydd yn y ganrif honno gan Matthew Arnold ac A. C. Swinburn.

Trystan ac Esyllt oedd testun y Goron yn 1902 a chrewyd sawl fersiwn Cymraeg o'r chwedl o ganlyniad; pryddest R. Silyn Roberts oedd y gerdd fuddugol, ond cafwyd cerdd nodedig hefyd gan W. J. Gruffydd.

Gweler hefyd

golygu