William Haggar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Llinell 33:
Nid creu ffilmiau ar leoliad yn y cymoedd a Sir Benfro oedd unig gymwynas Haggar i hanes ffilm Cymru; bu ei gyfraniad hefyd yn allweddol i lwyddiant y sinemâu. Wedi blynyddoedd o deithio de a gorllewin Cymru gyda chyfres o sioeau ''bioscope'' lliwgar, erbyn diwedd y 1910au perswadiwyd Haggar i sefydlu sinema sefydlog. Dewisodd [[Aberdâr]] fel lleoliad ei sinema sefydlog gyntaf, gan greu sinema mewn caban dros dro o’r enw Haggar’s Electric Coliseum yn Stryd y Farchnad ym 1910. Ailfedyddiwyd y sinema ym 1912 yn Haggar’s Electric Palace. O fewn blwyddyn roedd Haggar wedi ei ethol i Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr ac fe’i hetholwyd y flwyddyn ganlynol yn aelod o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr. Roedd yn brysur ymbarchuso gan ddod yn aelod blaenllaw a dylanwadol o’i gymuned. At hynny, aeth aelodau teulu Haggar yn eu blaen i sefydlu a rheoli sinemâu ledled de Cymru. Adeiladwyd, er enghraifft, sinema newydd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] ym 1910, agorwyd dau yn [[Llanelli]], sef Haggar’s Theatre a agorwyd ym 1910 ac a reolwyd gan ei fab James, a’r Hippodrome a reolwyd gan fab arall, Walter. Ym 1912 agorwyd y Palace yn [[Aberpennar]] a Haggar’s Theatre and Bioscope Palace ym [[Pontarddulais|Mhontarddulais]] lle y bu tân difrifol a ddinistriodd nid yn unig yr adeilad ac offer cwmni theatr Walter Haggar ond, yn fwy torcalonnus, nifer fawr o ffilmiau William Haggar Snr. Dyma golled amhrisiadwy i hanes ffilm Cymru a’r byd. Ond ar 23 Awst 1915, yn goron ar ymerodraeth Haggar, agorwyd y Kosy Kinema yn Aberdâr, a hynny y tu draw i’w hen stondin yn Stryd y Farchnad. Yr oedd yn adeilad hardd iawn a gynlluniwyd yn ofalus ac a ddarparai adloniant i 700 o bobl gyda cherddorfa chwe darn yn cyfeilio’r ffilmiau.
 
Bu cyfraniad William Haggar, a fu farw yn Aberdâr ar 4 Chwefror 1925, o anhraethol bwys yn nyddiau cynnar y cyfrwng a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif20g bu ei ddisgynyddion yn rheoli degau o sinemâu ledled de a gorllewin Cymru, gan ddiddanu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Dyma arloeswr lliwgar a sicrhaodd fywoliaeth deg i’w hun yng nghymunedau tlawd de a gorllewin Cymru ond a adawodd ei ôl hefyd ar lwyfan rhyngwladol y cyfrwng ffilm.
 
''Bywgraffiad gan Dr. Gwenno Ffrancon.''