Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn eginyn (iaith -> ieithyddiaeth)
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
 
Llinell 1:
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw '''cymathiad'''.
 
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn '''gymathiad blaen'''. Enghraifft o gymathiad blaen yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] yw ''simme'' a glywir ar lafar yn y gorllewin am ''simne''. Yma mae'r ''m'' wedi troi'r ''n'' sy'n ei dilyn yn '''m''' hefyd.
 
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn '''gymathiad ôl'''. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw ''tac-cu'', a glywir yn aml am ''tad-cu'' yn y de. Yma mae'r c yn y ''cu'' wedi troi'r ''d'' ar ddiwedd ''tad'' yn '''c'''; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae ''campunt'', a glywir yn gyffredin ar lafar am ''canpunt'', yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r ''p'' yn ''punt'' wedi dylanwadu ar y llythyren ''n'' flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn '''m'''. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw ''bwgwth'' am ''bygwth''.
 
{{eginyn ieithyddiaeth}}
 
[[Categori:Ffonoleg]]
[[Categori:Ieithyddiaeth hanesyddol]]
{{eginyn ieithyddiaeth}}