Wicipedia:Canllawiau iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Trefnolion: print trwm
Defnydd Cymreig, Cymraeg, Cymro
Llinell 90:
 
Gellir hefyd ddisgrifio athletwyr sy'n dod o Gymru fel 'athletwyr Cymru' wrth gyfeirio atynt i gyd fel un grŵp. Mae'r gystrawen hon yn addas ar gyfer teitlau categorïau.
 
===Defnydd Cymreig, Cymraeg, Cymro===
Dylid defnyddio'r gair 'Cymreig', 'Seisnig', ayb i ddisgrifio cenedligrwydd (yn perthyn i Gymru neu i genedl y Cymry) heblaw am yn achos iaith a phobl, e.e. 'gwisg Gymreig', 'y wasg Gymreig' (y wasg sy'n delio â materion Cymreig, trwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg).
 
Felly mae 'pobl o dras Cymreig' yn gywir - mae Cymreig yn disgrifio 'tras'. Ond nid 'athletwr Cymreig' - 'athletwr o Gymro' yw'r ymadrodd naturiol Gymraeg. Gweler yr adran 'Enwau ar bobloedd' am ragor o wybodaeth.
 
Defnyddir 'Cymraeg', 'Ffrangeg', ayb i ddisgrifio iaith, e.e. 'nofel Ffrangeg' i ddisgrifio nofel a ysgrifenwyd yn y Ffrangeg, 'y wasg Gymraeg' i ddisgrifio'r wasg sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
==Adnoddau iaith==